Mae gan Lafur Cymru “gyfle i symud ymlaen” o dan arweinyddiaeth Eluned Morgan, yn ôl Jeremy Miles, sydd wedi ei henwebu i fod yn arweinydd Llafur Cymru.

Daw ei sylwadau ar ôl i Eluned Morgan gadarnhau ei bod hi’n ystyried sefyll i olynu Vaughan Gething, sydd wedi cyhoeddi ei fwriad i ymddiswyddo o fod yn arweinydd Llafur Cymru a Phrif Weinidog Cymru.

Y gred yw y gallai hi sefyll ar y cyd â Huw Irranca-Davies, fyddai’n dod yn Ddirprwy Brif Weinidog.

“Dw i’n gobeithio y daw Eluned yn arweinydd arnon ni,” meddai Jeremy Miles.

“Byddai ei harweinyddiaeth yn ein galluogi ni i gyd i symud ymlaen, yn unedig wrth gyflwyno gweledigaeth Llywodraeth Lafur Cymru.

“Mae Eluned yn ffrind yn ogystal â chydweithiwr gwerthfawr.”

Gwerthoedd

“Mae hi wedi sefyll lan dros fuddiannau Cymru yn y Senedd, ond hefyd yn Ewrop ac yn San Steffan,” meddai Jeremy Miles wedyn.

“Mae’r gwerthoedd mae hi’n eu hybu – tegwch, llewyrch i bawb, dyfodol gwyrddach a setliad datganoli cryf – yn rhai dw i’n eu rhannu mewn modd angerddol.

“Byddai Llafur Cymru o dan Eluned yn estyn allan ac yn cynrychioli pob rhan o’n cenedl.

“Ar nodyn personol, dw i’n ddiolchgar iawn i gynifer o bobol am yr anogaeth i sefyll yn yr etholiad hwn.

“Dw i wedi rhoi buddiannau ein gwlad a’n plaid yn gyntaf, a dw i’n hollol sicr mai Eluned sydd yn y lle gorau i symud y wlad a’r blaid yn eu blaenau.”