Gwaith enillydd Medal Gwyddoniaeth a Thechnoleg yr Eisteddfod Genedlaethol yn Rhondda Cynon Taf eleni yw sicrhau bod pelydrau’n rhedeg yn gyflym a chywir mewn peiriant tanddaearol anferth.

Mae wedi’i gydnabod am ei waith gyda’r Gwrthdarwr Hadron Mawr (LHC), y peiriant 17 milltir o hyd sydd wedi’i gladdu’n ddwfn o dan ddaear yng nghanolfan CERN, sy’n pontio’r ffin rhwng Ffrainc a’r Swistir.

Cafodd ei anrhydeddu mewn seremoni arbennig yn y Pafiliwn ar Faes yr Eisteddfod ym Mharc Ynys Angharad ym Mhontypridd.

Mae’r fedal hon, gafodd ei chyflwyno am y tro cyntaf yn 2004, yn cael ei rhoi i gydnabod a dathlu cyfraniad unigolyn i faes gwyddoniaeth a thechnoleg trwy gyfrwng y Gymraeg.

Y prosiect

Pennaeth Adran y Pelydrau yw Rhodri Jones, a fe a’i gydweithwyr sy’n sicrhau bod y pelydrau gronynnau sy’n cael eu pingio o amgylch y peiriant tanddaearol gwerth £3.7bn yn taro’i gilydd yn gywir.

“Mae wedi’i ddisgrifio fel ceisio taflu dwy nodwydd gwau at ei gilydd o bob ochr i Fôr yr Iwerydd a sicrhau bod y pwyntiau’n cwrdd, felly mae’n eithaf anodd,” meddai.

“Ond drwy weithio fel tîm rydyn ni wedi dangos y gellir ei wneud ac rydyn ni wedi cadw ein safonau uchel i sicrhau bod y pelydrau yn gwrthdaro’n union ble a phryd rydyn ni am iddyn nhw wneud hynny.

“A gobeithio y bydd hyn yn ein helpu i egluro pethau fel mater tywyll yn y pendraw, y pethau sy’n ymddangos fel petaen nhw’n ffurfio’r rhan fwyaf o’r bydysawd ond na allwn eu gweld, am ryw reswm, ar hyn o bryd.”

Pwy yw Dr Rhodri Jones?

Cafodd Rhodri Jones ei eni yn Sir Gaerfyrddin, ond treuliodd ei blentyndod cynnar yn yr Iseldiroedd cyn i’r teulu symud i Gaergrawnt.

Dychwelodd i Gymru yn 1989 i astudio Ffiseg ym Mhrifysgol Abertawe.

Parhaodd â’i astudiaethau yn Abertawe ac ennill PhD mewn Ffiseg Atomig a Laser.

Dechreuodd ar bennod newydd yn 1996, gan ymuno â CERN i gyfrannu at hyrwyddo systemau diagnostig ar gyfer y Gwrthdarwr Hadron Mawr.

Mae wedi chwarae rhan amlochrog yn CERN, gan gynnwys ymchwilio i dechnegau arloesol ar gyfer nodweddu pelydrau gronynnau.

Yn ogystal, roedd yn gyfrifol am weithredu ac actifadu’r system mesur hanfodol ar gyfer rheoli’r gronynnau yn effeithiol.

Bu hefyd yn meithrin cydweithrediad mewn technoleg cyflymu ymhlith sefydliadau a phrifysgolion Ewropeaidd.

Yn 2021, cafodd ei benodi i swydd Pennaeth Adran y Pelydrau.

Wrth astudio yn Abertawe, fe wnaeth e gyfarfod â’i wraig, Sharon, sy’n hanu o Flaenau Ffestiniog.

Maen nhw’n byw yn Ffrainc gyda’u pedair merch, gafodd eu magu trwy gyfrwng y Gymraeg.

Bydd yr hynaf, Fflur, sydd bellach yn byw yn Llundain, yn cystadlu gyda chôr yn yr Eisteddfod a bydd ei rhieni yn y gynulleidfa’n gwylio.

Yn ogystal â dilyn y côr yn y Pafiliwn, a derbyn y Fedal eleni, mae Dr Rhodri Jones wedi traddodi darlith ar ddarganfod y Boson Higgs, a dyfodol y Gwrthdarwr Hadron Mawr, yn Y Sfferen, ym Mhentref Gwyddoniaeth a Thechnoleg yr Eisteddfod am 2 o’r gloch brynhawn Iau, Awst 8.

Mae hefyd yn edrych ymlaen at y cyfle i grwydro’r Maes a chyfarfod hen ffrindiau yn ystod ei ymweliad â Phontypridd.