Ar ddiwrnod cyntaf Sioe Frenhinol Cymru heddiw (dydd Llun, Gorffennaf 22), mae dau o bwyllgorau’r Senedd wedi amlinellu pryderon am Gynllun Ffermio Cynaliadwy Llywodraeth Cymru.
Mae Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig yn dweud bod y Cynllun wedi bod “yn destun oedi, cam-gyfathrebu a lefelau digynsail o bryder ynghylch p’un a allai gyflawni”.
Mae’r Pwyllgor yn nodi materion o ran dyluniad y cynllun, y targedau ar gyfer gorchudd coed a sut mae’n bosib eu bodloni, a’r fethodoleg ar gyfer taliadau i ffermwyr.
Mae pobol wedi mynegi pryderon sylweddol i’r Pwyllgor am y Cynllun a’r ffaith nad yw’n ystyried dyfodol ffermio drwy gefnogi newydd-ddyfodiaid a ffermwyr tenant.
Clywodd aelodau’r Pwyllgor hefyd rwystredigaeth gan sefydliadau amgylcheddol am fod y broses o gyflwyno’r cynllun wedi cael ei ohirio.
Galw ar Lywodraeth Cymru i ddangos eu bod yn gwrando
Mae’r adroddiad sydd wedi’i lansio heddiw yn codi cwestiynau pwysig i Lywodraeth Cymru, sef sut y gall sicrhau bod y Cynllun Ffermio Cynaliadwy yn hygyrch i bob ffermwr, ni waeth pa fath o fferm neuddaliadaeth sydd ganddo, a sut y gall gydbwyso’r gwaith o ddiogelu dyfodol y diwydiant ffermio a chynhyrchu bwyd â’r angen i ymateb i’r argyfyngau hinsawdd a natur.
Ers pasio Deddf Amaethyddiaeth (Cymru) yr haf diwethaf a’r protestiadau gan dyrfaoedd o ffermwyr, mae Llywodraeth Cymru wedi gohirio cyflwyno’r Cynllun Ffermio Cynaliadwy er mwyn gweithio gyda’r diwydiant ac undebau i ddatblygu’r cynigion ymhellach.
Mae’r Pwyllgor nawr yn galw ar Lywodraeth Cymru i amlinellu sut maen nhw’n gwrando ar bryderon ffermwyr, a sut y byddan nhw’n newid eu cynlluniau i adlewyrchu eu barn.
“Rydym ni wedi mynegi pryderon yn gyson ar ran ffermwyr nad yw Llywodraeth Cymru yn gwrandoar eu pryderon,” meddai Paul Davies, cadeirydd Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig.
“Yn y Sioe Frenhinol eleni, bydd bron i flwyddyn wedi mynd heibio ers pasio Deddf Amaethyddiaeth Llywodraeth Cymru ac mae yna oedi o hyd o ran gweithredu’r Ddeddf.
“I’r rhai sy’n ymwneud â ffermio, ac i’r rhai sy’n gweithio i warchod ein hamgylchedd, mae’r ansicrwydd hwn yn peri pryder.
“Un o’r pryderon mawr drwy’r broses hon yw’r ffordd y mae Llywodraeth Cymru wedi rhoi gwybod am y newidiadau mawr yn sgil y Cynllun Ffermio Cynaliadwy.
“Mae’n hanfodol bod ffermwyr yn cymryd rhan ar hyd y broses ac yn cael y wybodaeth ddiweddaraf.
“Rydym ni’n galw ar Lywodraeth Cymru i ddangos sut maen nhw’n addasu eu cynlluniau i ddiwallu anghenion ein diwydiant amaeth a’n hamgylchedd.”
Plannu coed
Mae’r Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith hefyd wedi cynnal ymchwiliad i’r Cynllun Ffermio Cynaliadwy.
Mae’r pwyllgor yn glir ei bod yn hanfodol plannu mwy o goed os yw Cymru am gyrraedd ei thargedau newid hinsawdd, ond maen nhw’n cydnabod fod ffermwyr wedi mynegi teimladau cryf y byddai hyn yn gwneud llawer o fusnesau’n anhyfyw.
Dechreuodd y gwaith o ddatblygu’r cynllun hwn dros saith mlynedd yn ôl, a gyda’r oedi gafodd ei gyhoeddi’n ddiweddar, mae’r pwyllgor yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyhoeddi amserlen ar gyfer y camau nesaf cyn gynted â phosibl.
Yr agwedd fwyaf dadleuol ar y Cynllun yw’r gofyniad bod 10% o dir ffermwyr wedi’i orchuddio â choed i helpu i storio carbon, yn ogystal â gwarchod bywyd gwyllt a hybu bioamrywiaeth.
Dywed aelodau’r pwyllgor eu bod yn agored i ffyrdd amgen o gyrraedd y targed, cyn belled â’u bod nhw’n cyflawni yr un nod, ac maen nhw wedi annog Llywodraeth Cymru i ymgynghori â Phwyllgor Newid Hinsawdd y Deyrnas Unedig ar atebion eraill.
“Mae’r Cynllun Ffermio Cynaliadwy yn bennod newydd ar gyfer amaethyddiaeth Cymru, ond mae gan Lywodraeth Cymru lawer o waith i’w wneud cyn ei fod yn barod i’w gyflwyno,” meddai Llyr Gruffydd, cadeirydd y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith.
“O gofio bod Llywodraeth Cymru bellach wedi gweithio ar y cynlluniau hyn ers bron i ddegawd, mae’n hanfodol iddyn nhw ffeindio datrysiadau i sicrhau fod cynllun yn barod ar gyfer 2026.
“Mae gan y Cynllun Ffermio Cynaliadwy y potensial i roi amaethyddiaeth ar sail wirioneddol gynaliadwy, gyda ffermwyr yn arwain yn y frwydr yn erbyn newid yn yr hinsawdd a dirywiad natur.
“Byddwn yn annog Llywodraeth Cymru i fabwysiadu ein hargymhellion cyn symud ymlaen.”