Mae rhieni sy’n gorfod teithio hanner ffordd ar draws Caerdydd i fynd â’u plant i’r ysgol yn galw am ysgol uwchradd Gymraeg newydd yn ne’r ddinas.

Daw’r ymgyrch, gafodd ei lansio ddydd Iau, Gorffennaf 11, ar ôl i nifer o ddisgyblion Blwyddyn 6 o ddalgylch Ysgol Gyfun Glantaf gael eu gwrthod ar gyfer yr ysgol, cyn i’r penderfyniad gael ei wyrdroi i’r mwyafrif yn dilyn proses apelio.

Roedd Ysgol Gyfun Glantaf, un o dair ysgol uwchradd Gymraeg yng Nghaerdydd, ymhlith yr ysgolion mwyaf llawn yn y ddinas eleni.

Mae nifer o rieni yr oedd eu plant yn ddigon ffodus i gael lle yn wynebu taith 20-30 munud yn y car i fynd i’r ysgol os ydyn nhw’n byw mewn ardaloedd deheuol yn y ddinas, gan gynnwys Trelluest (Grangetown).

‘Hynod siomedig’

“Roedd nifer o ddisgyblion yn hynod siomedig na chawson nhw le yn Ysgol Glantaf,” meddai Catrin Dafydd, rhiant sy’n aelod o’r ymgyrch newydd i sefydlu ysgol Gymraeg yn ne Caerdydd.

“Fe wnaeth e wir greu ymdeimlad annifyr a phryder ymhlith plant a’u teuluoedd, ac roedd hi’n glir fod angen ar unwaith am ddarpariaeth yn ne Caerdydd.

“Ysgol sydd wedi’i gwreiddio yn ein cymuned sy’n cynrychioli ein cymuned.”

Fe wnaeth rhieni a phlant ymgynnull tu allan i Neuadd y Ddinas ar gyfer lansiad yr ymgyrch newydd, lle cafodd llythyr ei gyflwyno i’r Cyngor yn galw am sefydlu ysgol newydd.

“Mae cwricwlwm newydd Cymru’n nodi’n glir eu bod nhw’n credu y dylai plant dderbyn eu haddysg yn eu cymunedau eu hunain, ac astudio’r byd o le mae eu traed ar y ddaear.

“Mae’n rhaid i’n plant ni deithio hanner ffordd ar draws y ddinas, sy’n sicr ddim yn gynllun gwyrdd.

“Mae de Caerdydd yn ardal ddifreintiedig.

“Os yw addysg Gymraeg i bawb, fel sy’n cael ei nodi ym mhob darn o lenyddiaeth a pholisi sydd gan Gyngor Caerdydd, ac rydych chi’n gweld Llywodraeth Cymru’n gwthio hynny hefyd, yna mae’n rhaid i chi wneud hynny’n realiti i bawb.”

Ychwanega fod y pellter mae’n rhaid i rieni deithio i Ysgol Glantaf yn gwneud iddyn nhw feddwl dwywaith a all eu plant fynychu digwyddiadau allgyrsiol.

‘Digon o lefydd’

Dywed Cyngor Caerdydd fod digon o lefydd yn ysgolion Cymraeg Caerdydd ar hyn o bryd, ac y byddai adeiladu un newydd ar hyn o bryd yn andwyol i’w cynaladwyedd.

Maen nhw’n ychwanegu eu bod nhw wedi ymrwymo, drwy eu Cynllun Strategol Cymraeg mewn Addysg, i gynyddu capasiti parhaol ysgolion uwchradd Cymraeg dros gyfnod o ddeng mlynedd.

Eleni, roedd 240 o lefydd ar gael yn Ysgol Glantaf ac roedd 267 o ddisgyblion wedi nodi mai hon oedd eu dewis ysgol.

Cafodd Ysgol Plasmawr ac Ysgol Bro Edern, ysgolion uwchradd Cymraeg eraill Caerdydd, ddeuddeg a chwech o geisiadau’n llai na’r llefydd oedd ar gael eleni.

Loteri cod post

“Roeddwn i’n rhan o’r ffrwd gyntaf yn yr ail ysgol Gymraeg yng Nghaerdydd,” meddai Alex Clatworthy, rhiant arall.

“Roedd hi’n wych.

“Roedd hi’n hyfryd, ac roedd bod yn yr ysgol honno’n ddim byd ond anhygoel i fi, ac roedd hi ar stepen y drws.”

Mae un o blant Alex Clatworthy, 38, yn dal yn yr ysgol gynradd, ac mae’r llall yn ddwy oed, ond mae hi’n cydymdeimlo â’r rhieni a’r plant oedd wedi gorfod wynebu ansicrwydd o ran pa ysgol roedden nhw’n mynd iddi.

“Daeth hi’n amlwg pa mor anodd yw hi i blant yr ardal hon gael sicrwydd o gael mynd i ysgol Gymraeg, a mynd i’r ysgol gyda’u ffrindiau, sy’n beth enfawr i lawer o blant.

“Mae’n symudiad mawr i mewn i addysg uwchradd, ac wrth gwrs y gallwch chi ddechrau a gwneud ffrindiau newydd, ond maen nhw wedi cael eu haddysg gyda grŵp o ffrindiau ac mae cael y carped wedi’i dynnu oddi tanyn nhw oherwydd y cod post lle maen nhw’n byw jest yn annheg.”

Dywed Carl Morris, 42, fod ei blant yn rhy ifanc i fynd i’r ysgol uwchradd, ond fod y mater wedi gwneud iddo feddwl mwy am y dyfodol.

“Caerdydd yw fy ninas, a dw i’n gwybod ers amser maith fod bwlch yno, a nawr fy mod i’n dad, mae hynny wedi cael ei amlygu dipyn bach,” meddai.

“Mae fy mab yn mynychu Ysgol Hamadryad, ac fel arfer byddech chi’n disgwyl mynd i Ysgol Glantaf, ond cafodd teuluoedd eu gwrthod yn wreiddiol ac fe aethon nhw drwy broses apelio, oedd yn dipyn o straen ac fe wnaeth e greu tipyn o ansicrwydd.

“Fe gawson nhw lefydd yn y pen draw, ond ar ôl rhai misoedd oedd hynny.”

Ymateb Cyngor Caerdydd

“Mae’r Cyngor yn adolygu ein polisi derbyniadau bob blwyddyn, gan ystyried effeithiolrwydd a thegwch trefniadau i bob disgybl, p’un a ydyn nhw’n gobeithio mynd i ysgolion Cymraeg neu Saesneg,” meddai llefarydd ar ran Cyngor Caerdydd.

“Yn wir, yn ddiweddar fe gytunodd y Panel Apeliadau Annibynnol fod y Cyngor wedi gweithredu eu trefniadau ar gyfer derbyniadau i’w hysgolion uwchradd yn gywir.

“Yr unig apeliadau gafodd eu caniatáu o ran derbyniadau i Ysgol Glantaf gan banel annibynnol oedd yr unigolion hynny â rhesymau anorchfygol dros gael eu derbyn.

“Rydyn ni’n gwybod fod rhai rhieni’n awyddus i gael ysgol Gymraeg yn nes at adref, ac rydyn ni’n deall hynny, ond rhaid cynllunio’n ofalus wrth ehangu addysg Gymraeg – yn wir, wrth ehangu unrhyw ddarpariaeth, Saesneg neu Gymraeg – er mwyn sicrhau bod modd gweithredu pob darpariaeth yn effeithiol ac yn gynaliadwy.

“Yn ôl rhagolygon, mae disgwyl i dderbyniadau i ysgolion uwchradd Cymraeg ostwng yn 2025-26 ac yn 2026-27, o gymharu â 2024-25, ac yn bwysicaf oll, mae digon o lefydd ar gael yn ysgolion uwchradd Cymraeg Caerdydd i gefnogi unrhyw ddisgyblion sydd eisiau dysgu trwy gyfrwng y Gymraeg.

“Mae’r Cyngor eisoes yn bwriadu cynyddu’r capasiti dros dro i gefnogi’r ymchwydd sy’n cael ei ddarogan ar gyfer ysgolion uwchradd Cymraeg yn 2027-28, ac ar ôl hynny mae darogan y bydd cwymp sylweddol eto ac y bydd lefelau’n aros yn isel tan o leiaf 2031-32, gan adlewyrchu cyfraddau geni isel diweddar a llai o dderbyniadau ar y cyfan i addysg gynradd.

“Mae digon o lefydd wedi’u cynllunio ac ar gael yn ysgolion uwchradd Cymraeg Caerdydd i gefnogi dysgwyr Caerdydd tan o leiaf 2031-32.

“Byddai adeiladu ysgol uwchradd Gymraeg newydd ar hyn o bryd – pan fo digon o lefydd ar gael yn nhair ysgol uwchradd Gymraeg bresennol Caerdydd – yn andwyol i gynaladwyedd yr ysgolion hynny.

“Yn syml, does dim digon o ddisgyblion i gynnal pedair ysgol uwchradd Gymraeg, a dydy cyfraddau geni diweddar na rhagfynegiadau ddim yn awgrymu y bydd hyn yn newid yn y dyfodol agos.

“At hynny, mae Cynllun Strategol Cymraeg mewn Addysg y Cyngor ar gyfer 2022-31 yn rhoi sylw i ystod eang o ymrwymiadau, gan gynnwys datblygu cynlluniau strategol i gynyddu capasiti parhaol darpariaeth uwchradd Gymraeg dros gyfnod o ddeng mlynedd.

“Mae’r Cyngor hefyd yn cydweithio’n agos â sefydliadau sy’n bartneriaid, er mwyn hybu manteision addysg ddwyieithog i dyfu’r Gymraeg a nifer y dysgwyr sy’n mynd i mewn i addysg gynradd Gymraeg, ac yn ei dro yn cefnogi ehangu darpariaeth uwchradd Gymraeg yn y dyfodol.”

Mae modd cael mwy o wybodaeth am yr ymgyrch gan gynnwys deiseb i drigolion Caerdydd a chyfrifon Twitter/Insta/Fb ar wefan yr ymgyrch.