Mae Eluned Morgan wedi cadarnhau ei bod hi am sefyll i arwain Llafur Cymru.

Dywed Ysgrifennydd Iechyd Cymru ei bod hi am sefyll ar y cyd â Huw Irranca-Davies, fyddai’n dod yn Ddirprwy Brif Weinidog.

Dydy hi ddim yn debygol ar hyn o bryd y bydd unrhyw un arall yn sefyll i olynu Vaughan Gething.

Mae gan ymgeiswyr tan 12 o’r gloch ddydd Mercher (Gorffennaf 24) i gyflwyno’u henwau.

Ond roedd o leiaf ddeuddeg o Aelodau Llafur o’r Senedd wedi datgan eu cefnogaeth i Eluned Morgan erbyn iddi gyhoeddi ei bod hi am sefyll, ac mae hi’n dweud bod ganddi “gefnogaeth gref”.

Yn eu plith mae Julie James, Mick Antoniw a Jeremy Miles – tri aelod Llafur oedd wedi rhoi pwysau ar Vaughan Gething i ymddiswyddo.

“Gwella clwyfau Llafur” nid “adnewyddu synnwyr y llywodraeth o bwrpas”

Mae Rhun ap Iorwerth, arweinydd Plaid Cymru, wedi ymateb yn chwyrn i gyhoeddiad Eluned Morgan.

“Ar ôl wythnosau o ffraeo mewnol, mae ffocws Llafur yn gyfan gwbl ar reolaeth eu plaid yn hytrach nag ar newid cyfeiriad i Gymru, er gwaethaf addewid Starmer o roi gwlad cyn plaid,” meddai.

“Mae gan arweinwyr Llafur yng Nghymru yn y gorffennol diweddar a’r dyfodol agos un peth yn gyffredin ar eu CV – record affwysol o redeg y Gwasanaeth Iechyd Gwladol sydd wedi arwain at restrau aros uwch nag erioed.

“Mae bod mewn llywodraeth bellach yn cael ei ystyried yn bwysicach i Lafur na gwybod beth i’w wneud gyda’r liferi sydd ar gael iddyn nhw.

“Os daw Eluned Morgan yn arweinydd Llafur yng Nghymru a phe bai’n dod yn Brif Weinidog, bydd yn rhoi blaenoriaeth i wella clwyfau Llafur yn hytrach nag adnewyddu synnwyr y llywodraeth o bwrpas.

“Gall absenoldeb platfform polisi olygu un peth yn unig, mwy o’r un syniadau blinedig a meddylfryd hen ffasiwn sydd wedi arwain at Gymru ar waelod tablau cynghrair economaidd, iechyd ac addysgol ar ôl 25 mlynedd o Lafur mewn grym.

“Waeth pwy sy’n dod yn arweinydd nesaf Llafur yng Nghymru, bydd Plaid Cymru yn parhau i wneud yr achos dros ddyfodol tecach, mwy uchelgeisiol i Gymru.”