Mae Sioe Amaethyddol Frenhinol Cymru wedi derbyn cymeradwyaeth y Cynnig Cymraeg.

Mae’r Gymraeg wedi cael lle blaenllaw erioed yng ngweithgareddau Sioe Amaethyddol Frenhinol Cymru, ond mae’r sefydliad bellach wedi cael cydnabyddiaeth am yr ymroddiad.

Cydnabyddiaeth swyddogol Comisiynydd y Gymraeg yw’r Cynnig Cymraeg, a chaiff ei rhoi i sefydliadau sydd wedi cydweithio â swyddogion y Comisiynydd i gynllunio darpariaeth Gymraeg.

Ers lansio’r cynllun ym mis Mehefin 2020, mae cydnabyddiaeth wedi ei rhoi i Gynnig Cymraeg dros 120 o fusnesau ac elusennau, ac mae swyddfa’r Comisiynydd yn gweithio gyda nifer o sefydliadau eraill ar ddatblygu cynlluniau.

Wrth i’r Sioe Amaethyddol gychwyn heddiw (dydd Llun, Gorffennaf 22) yn Llanelwedd, dywedodd Aled Rhys Jones, Prif Weithredwr y Sioe, ei fod yn hynod falch o allu derbyn y Cynnig Cymraeg,

“Gyda chanran uwch o weithwyr yn y sector amaethyddol yn medru’r Gymraeg nag unrhyw sector arall yng Nghymru a’r nifer o siaradwyr Cymraeg yn y diwydiant yn sylweddol uwch na chyfartaledd y boblogaeth gyffredinol, mae cysylltiad byw iawn rhwng bodolaeth a dyfodol y Gymraeg, a’r diwydiant amaeth,” meddai.

“Mae’r Gymraeg yn greiddiol, nid yn unig i’n gwaith ni yma ar faes y Sioe Amaethyddol, ond ar lefel ehangach yng nghefn gwlad Cymru.

“Mae’r iaith a’r diwylliant yn rhan annatod o fywyd amaethyddol Cymru ac mae derbyn cydnabyddiaeth swyddogol am hynny yn gymorth i ni hyrwyddo’r Gymraeg ymhellach gyda chymuned y Sioe yng Nghymru a thu hwnt.

“Mae’r wythnos hon yn naturiol yn binacl i ni yng Nghymru ac mae derbyn y Cynnig Cymraeg yn gychwyn gwych i’r ŵyl.”

Cynyddu’r defnydd o wasanaethau Cymraeg

“Mae’r Cynnig Cymraeg yn rhoi cyfle i sefydliadau godi ymwybyddiaeth am yr hyn maen nhw yn ei gynnig drwy’r Gymraeg,” meddai Efa Gruffudd Jones, Comisiynydd y Gymraeg.

“Drwy wneud hynny y gobaith yw y bydd yn arwain at gynnydd yn y defnydd o wasanaethau Cymraeg.

“Mae’r diwydiant amaethyddol yn rhan hanfodol o economi a diwylliant cymunedau gwledig Cymru, lle mae’r Gymraeg yn iaith naturiol bob dydd.

“Mae sicrhau ffyniant yr economi wledig ac amaethyddol felly yn hollbwysig er mwyn gweld twf yn y nifer sy’n siarad ac yn defnyddio’r Gymraeg bob dydd.

“Ar gychwyn un o’n gwyliau pwysicaf hoffwn longyfarch y Sioe ar dderbyn y Cynnig Cymraeg a dymuno pob llwyddiant iddynt ar hyd yr wythnos.”