Mae Plaid Cymru wedi dileu aelodaeth Rhys ab Owen.
Daw hyn ar ôl i’r Aelod o’r Senedd, sydd bellach yn aelod annibynnol, gael ei ddiarddel yn dilyn adroddiadau ynghylch ei ymddygiad tuag at fenywod.
Daeth cadarnhad o’r penderfyniad gan Adrian Masters, Golygydd Gwleidyddol ITV Cymru, ar y cyfryngau cymdeithasol.
“Yn dilyn cyhoeddi adroddiad safonau’r Senedd, fe fu proses ddisgyblu fewnol o fewn Plaid Cymru,” meddai ar X (Twitter gynt).
“O ganlyniad, mae ei aelodaeth o’r blaid wedi cael ei dileu, a fydd e ddim yn gymwys i wneud cais eto am gyfnod o ddwy flynedd o leiaf.”
Cefndir
Roedd y cwynion yn ymwneud â digwyddiad yn 2021, pan oedd staff Plaid Cymru ar noson allan.
Er ei fod yn cyfaddef fod ei ymddygiad yn wael, roedd e wedi gwadu’r honiadau yn ei erbyn, ac roedd yn feirniadol o’r broses arweiniodd at ei wahardd o’r Senedd.
Ers i adroddiad y Pwyllgor Safonau gael ei gyhoeddi, mae wedi’i wahardd gan Blaid Cymru ond ni fu’n aelod o Grŵp Plaid Cymru yn y Senedd ers i’r ymchwiliad ddechrau yn 2022.
Pe bai’n Aelod Seneddol yn San Steffan, ac nid yn Aelod o Senedd Cymru, byddai wedi wynebu’r posibilrwydd o ddeiseb i’w symud o’i swydd, fyddai’n arwain at is-etholiad.
Ymddiheuriad
“Hoffwn ddechrau gydag ymddiheuriad: i’r bobol y mae fy ymddygiad wedi effeithio’n uniongyrchol arnynt, i’m teulu, i chi, fy nghydweithwyr yn y Senedd ac i’r cyhoedd yr wyf yn eu gwasanaethu,” meddai.
“Rwyf wedi eich gadael i lawr.
“Roedd fy ymddygiad ar y noson dan sylw yn llawer is na’r safon a ddisgwylir gan aelod etholedig.
“Ac am hynny rwy’n ymddiheuro’n ddiamod. Yn bennaf i’r rhai oedd yn bresennol ac effeithiwyd gan fy ymddygiad y noson honno, bron i dair blynedd yn ôl bellach.
“I chi, fy nghydweithwyr. I fy nheulu. Ac i’r cyhoedd.
“Cefais ormod i yfed y noson honno ac ymddwyn yn wael.
“Rwy’n derbyn cyfrifoldeb am fy ymddygiad a chanlyniadau’r ymddygiad hwnnw.
“Yr wyf felly hefyd yn derbyn y gosb a roddwyd i mi, hyd yn oed os oes gen i bryderon mawr ynghylch sut y’i cyrhaeddwyd.
“Ac mae gen i bryderon.
“Er fy mod yn parchu rheidrwydd y broses hon, roedd ei hyd a’i diffyg tryloywder yn heriol i bawb.
“Mae’n iawn bod gennym broses o’r fath, ond mae angen i’r broses honno wella. Ac mae’n rhaid iddi wella – i bawb.
“Cyflwynwyd y gŵyn i’r Comisiynydd Safonau ar 1 Gorffennaf 2022.
“Mae bellach yn 13 Mawrth 2024.
“Mae dros ugain mis wedi mynd heibio…. 622 diwrnod.
“Ni ddylai ond un person ymchwilio a phenderfynnu ar fater fel hyn yn enwedig pryd nad oes ychwaith unrhyw ffordd i herio neu apelio yn erbyn y canlyniad, ac eithrio adolygiad barnwrol a allai gostio chwe ffigur.
“Byddai cost o’r fath yn atal y mwyafrif, ac eithrio’r cyfoethog iawn, rhag apelio; sy’n amlygu rhwystr real i degwch.
“Byddwn yn dychmygu ei fod yn swm tu hwnt i’r rhan fwyaf yma yn y Senedd.
“Ond y rheolau – fel y maen nhw – yw’r rheolau, a rhaid i mi gadw atynt. Rwy’n cadw atynt.”