Mae 66% o bobol yng Nghymru eisiau i ffermwyr dderbyn cymorth i fynd i’r afael ag effeithiau newid hinsawdd ar gynhyrchu bwyd ac adfer natur, yn ôl arolwg newydd.
Cafodd yr arolwg ei gyhoeddi gan YouGov ar ran WWF Cymru.
Adeg arolwg tebyg yn 2022, roedd 60% o’r farn na ddylai Llywodraeth Cymru roi cymorth i ffermwyr oni bai eu bod nhw’n weithgar wrth geisio gwarchod natur a’r hinsawdd.
Gyda’r newyddion diweddar bod Llywodraeth Cymru yn gohirio’r Cynllun Ffermio Cynaliadwy hyd 2026, mae’n hollbwysig y caiff llais y cyhoedd ei glywed a bod ffermwyr yn derbyn cymorth yn syth er mwyn adeiladu cydnerthedd a mynd i’r afael â newid hinsawdd trwy arferion ffermio atgynhyrchiol – gan sicrhau cynaliadwyedd hirdymor amaethyddiaeth Cymru, medd WWF Cymru.
“Risg pennaf” i gynhyrchu bwyd
Mewn datganiad yn ddiweddar, dywedodd Huw Irranca-Davies, Ysgrifennydd Newid Hinsawdd a Materion Gwledig Cymru, mai’r argyfwng natur a hinsawdd yw’r “risg pennaf i’n gallu i gynhyrchu bwyd dros y tymor hir, a’n hecosystemau naturiol yw’r amddiffyniad gorau sydd gennym wrth addasu i’r newid yn yr hinsawdd a lleihau ei effeithiau”.
Mae ymchwil yn dangos bod tywydd eithafol, sy’n gwaethygu yn sgil newid hinsawdd, yn costio degau o filiynau o bunnoedd i ffermwyr bob blwyddyn.
Mae’r Cynllun Ffermio Cynaliadwy yn allweddol i’r broses o sicrhau y caiff Cymru ei hamddiffyn rhag effeithiau newid hinsawdd trwy gefnogi arferion atgynhyrchiol ac organig sy’n gwella cydnerthedd tir, ac yn galluogi ffermwyr i leihau effaith sychderau a llifogydd ac addasu yn eu herbyn, medd WWF Cymru.
Cymru yw un o’r gwledydd mwyaf prin o natur yn y byd, ac mae 18% o rywogaethau Cymru mewn perygl o ddifodiant.
Dangosodd arolwg YouGov fod y cyhoedd yng Nghymru eisiau troi’r llanw ar golli bioamrywiaeth yng Nghymru.
Dywedodd 69% o’r rhai wnaeth ateb y dylai’r Cynllun Ffermio Cynaliadwy anelu at adfer mawndiroedd a chynefinoedd lled-naturiol eraill, ac fe ddywedodd 67% y dylai rhagor o goed gael eu plannu.
‘Hollbwysig gwrando’
“Mae’n amlwg bod pobol Cymru eisiau i ffermwyr gymryd camau i leihau allyriadau, adfer cynefinoedd a chloi carbon mewn coed newydd a phriddoedd mwy iach,” meddai Alex Phillips, Rheolwr Polisi ac Eiriolaeth WWF Cymru.
“Mae’n hollbwysig i Lywodraeth Cymru wrando a sicrhau bod y Cynllun Ffermio Cynaliadwy’n galluogi ffermwyr i wrthsefyll effeithiau cynyddol newid hinsawdd, trwy ei wneud yn ofynnol i ffermwyr gymryd camau arwyddocaol i addasu ar gyfer newid hinsawdd ac adfer bioamrywiaeth, a’u gwobrwyo nhw am wneud hynny.
“Wrth inni dynnu at derfyn y broses o ddatblygu’r Cynllun, rhaid i Lywodraeth Cymru weithredu yn awr i gefnogi ffermwyr sy’n ystyrlon o natur.
“Y ffordd orau o wneud hyn yw cynyddu cyllid Cynllun Cynefin Cymru i lefelau Glastir hanesyddol yn 2025.”
‘Mater allweddol i’r cyhoedd’
“Mae risgiau uchel ynghlwm â pheidio â gweithredu, fel sy’n cael ei ddangos gan y degau o filiynau o bunnoedd mae tywydd eithafol yn costio i ffermwyr Cymru bob blwyddyn,” meddai Shea Buckland-Jones, Pennaeth Polisi ac Eiriolaeth WWF Cymru.
“Dengys ein cwestiynau bod yr amgylchedd yn amlwg yn fater allweddol i’r cyhoedd.
“Bydd y pum mlynedd nesaf hyd at 2030 yn hollol dyngedfennol o ran dod â natur Cymru yn ôl o ymyl y dibyn a chwrdd â’n targedau hinsawdd.
“Bydd angen i’r Cynllun Ffermio Cynaliadwy chwarae rhan allweddol cyn gynted ag y bo’n ymarferol bosibl os ydyn ni am gwrdd â’r targedau hyn.”