Mae S4C a Sioe Frenhinol Cymru yn cydweithio i gofio un o ddarlledwyr blaengar Cymru, Dai Jones Llanilar.
Heddiw (dydd Llun, Gorffennaf 21), fe fydd adeilad S4C ar safle’r Sioe yn derbyn enw newydd – Corlan Dai Llanilar – mewn teyrnged i’r diweddar Dai Jones.
Bydd llechen yn cael ei dadorchuddio yn adeilad S4C am 10.45yb, a derbyniad coffa i ddilyn am 11.00yb.
Yn y derbyniad, bydd gwasg Y Lolfa yn lansio cyfrol Cofio Dai, casgliad o ysgrifau wedi’u llunio gan y bobol oedd yn ei adnabod orau ym mhob rhan o’i fywyd.
Roedd golygydd y gyfrol, Beti Griffiths, yn ffrind agos i Dai a’i weddw, Olwen.
Bu farw Dai Jones, oedd hefyd yn ffermwr ac yn ganwr talentog yn 78 oed, ym mis Mawrth 2022.
Bu’n cyflwyno sawl rhaglen adnabyddus ar y radio a theledu, ond mae’n cael ei gofio’n bennaf fel cyflwynydd y gyfres Cefn Gwlad.
Mae’r llechen, sy’n cyfeirio at Dai fel y ‘Ffarmwr, Darlledwr, Gwladgarwr’, yn cael ei chyflwyno gan Gymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru a hynny ym mlwyddyn Sir Nawdd Ceredigion, ac yn cynnwys englyn gan y bardd Tudur Dylan Jones:
Dai
Dai’r ardal hyd y dalar, – Dai â’i lais
Hyd y wlad, Dai’r cymar,
Dai frenin ei werin wâr.
Llawn o hwyl yw Llanilar.
‘Penderfyniad rhwydd a naturiol iawn’
“Mae’r penderfyniad i alw adeilad S4C ar faes Sioe Frenhinol Cymru yn Corlan Dai Llanilar wedi bod yn un rhwydd a naturiol iawn i’w gwneud,” meddai Sioned Wiliam, Prif Weithredwr dros dro S4C.
“Roedd Dai Jones yn un o hoelion wyth y byd darlledu Cymraeg, a’i afiaith dros y Gymraeg, darlledu Cymraeg ac hefyd dros gefn gwlad Cymru yn heintus.
“Rydym yn falch iawn fel S4C ein bod yn gallu coffau’r gŵr arbennig ac unigryw hwn mewn ffordd arbennig. Bydd y cenedlaethau i ddod hefyd yn gallu dysgu am Dai a chael eu hysbrydoli ganddo.”
‘Braint’
“Byddai Dai yn dweud yn aml, y fraint fwyaf a ddaeth i’w rhan oedd cael ei ethol yn Llywydd y Gymdeithas,” meddai Aled Rhys Jones, Prif Weithredwr Sioe Frenhinol Cymru.
“Ac eleni, mae’n fraint i ni ddadorchuddio cofeb barhaol am un o fawrion y genedl.
“Roedd y Sioe yn golygu lot i Dai ac rydym yn cofio gyda gwen ar ein hwynebau am un o gewri cefn gwlad Cymru yr wythnos hon.”