Mae dathliad o ddwy flynedd o addysg nyrsio ym Mhrifysgol Aberystwyth yn cael ei gynnal ar Faes y Sioe yn Llanelwedd heddiw (dydd Mawrth, Gorffennaf 23).

Dechreuodd y garfan gyntaf o fyfyrwyr nyrsio ar eu hastudiaethau ym Mhrifysgol Aberystwyth ym mis Medi 2022.

Fel rhan o’r datblygiad, sefydlodd y Brifysgol ystafelloedd ymarfer clinigol o ansawdd uchel yn eu Canolfan Addysg Gofal Iechyd newydd, sydd gyferbyn ag Ysbyty Bronglais yn y dref.

Cafodd y datblygiad gwerth £1.7m ei gefnogi gyda grant o £500,000 gan Lywodraeth Cymru.

Cafodd addysg nyrsio ei datblygu ym Mhrifysgol Aberystwyth gyda chefnogaeth nifer o bartneriaid, gan gynnwys byrddau iechyd Hywel Dda, Betsi Cadwaladr a Phowys, yn ogystal â defnyddwyr gwasanaethau a gofalwyr.

Fe ddyfarnodd Addysg a Gwella Iechyd Cymru gytundeb i Brifysgol Aberystwyth i hyfforddi nyrsys ar gyfer oedolion ac iechyd meddwl sydd wedi ei ariannu gan Lywodraeth Cymru.

Caiff y myfyrwyr sy’n astudio ar gyfer y graddau y cyfle i ddilyn hyd at hanner eu cwrs drwy gyfrwng y Gymraeg.

Ymysg y siaradwyr yn y digwyddiad dathlu ar faes y Sioe fydd Eluned Morgan, Ysgrifennydd Iechyd Cymru, a Dr Chris Jones, cadeirydd Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AGIC).

‘Hanfodol’

“Mae sicrhau bod addysg gofal iechyd o ansawdd uchel ar gael mewn cymunedau ledled Cymru yn hanfodol,” meddai Eluned Morgan.

“Mae’n bleser mawr gen i ddathlu dwy flynedd o addysg nyrsio yn Aberystwyth a chlywed rhai o brofiadau’r myfyrwyr nyrsio cyntaf.

“Rwy’n gobeithio gweld yr holl raddedigion yn ymuno â’n gweithlu Gwasanaeth Iechyd Gwladol dawnus fel nyrsys cofrestredig.

“Byddwn ni’n parhau i weithio gyda phrifysgolion Cymru, Gwasanaeth Iechyd Gwladol Cymru a chyda gofal sylfaenol a chymunedol i sicrhau bod gennym ni’r gweithlu sy’n diwallu anghenion gofal iechyd Cymru nawr ac yn y dyfodol.”

‘Gosod sylfeini’

“Hoffwn i longyfarch yr holl staff a myfyrwyr sydd wedi gweithio mor galed i wneud y ddwy flynedd gyntaf yn gymaint o lwyddiant,” meddai’r Athro Jon Timmis, Is-ganghellor Prifysgol Aberystwyth.

“Mae’n ddarpariaeth newydd sy’n ehangu mynediad i lawer ac wedi’i theilwra at anghenion y canolbarth a’r gorllewin.

“Mae eisoes yn profi ei gwerth ac mae’n mynd i fod yn hwb o ran recriwtio a chadw staff yn y gwasanaeth iechyd yn lleol ac yn rhanbarthol.

“A, thrwy gynnig llawer iawn o’r hyfforddiant drwy gyfrwng y Gymraeg, bydd yn fuddiol i’r ddarpariaeth iaith yn ein gwasanaeth iechyd yn ogystal.

“Dros y blynyddoedd i ddod, ac wrth weithio gyda phartneriaid, rydym yn awyddus i gyfrannu mwy a mwy at gwrdd ag anghenion hyfforddi ein Gwasanaeth Iechyd.

“Mae’r Ganolfan Addysg Gofal Iechyd yn adnodd pwysig yn hyn o beth.

“Rydyn ni wrthi’n gosod sylfeini ar gyfer twf darpariaeth addysg gofal iechyd yma yn Aberystwyth ar gyfer y dyfodol.”

Galluogi myfyrwyr i astudio’n nes at adref

Bydd y fyfyrwraig Annie Evans, sydd yn ei blwyddyn gyntaf ar y cwrs, yn siarad yn y digwyddiad.

“Yn dod o gymuned glos cefn gwlad, mae’r cyfle i mi allu astudio yn fy nhref enedigol yn bwysig i mi,” meddai.

“Mae’r cwrs yma wedi galluogi i mi aros yn agos at deulu a ffrindiau wrth i mi astudio.

“Mae astudio mewn ardal lle rwy’n gobeithio dilyn fy ngyrfa yn y dyfodol yn bwysig i mi, am ei fod yn rhoi’r cyfle i mi gael lleoliadau dysgu lleol a fydd o fudd i mi yn y dyfodol.”

“Mae’r ffaith fod gradd nyrsio i’w chael yn Aberystwyth wedi caniatáu i mi ddod yn nyrs,” meddai.

“Cyn nawr, byddai’n rhaid i mi fod wedi teithio cryn dipyn ac y byddai hynny wedi’i wneud yn anodd iawn i mi gan fod gen i deulu i ofalu amdano.”