Mae Heddlu Dyfed-Powys yn rhybuddio ymwelwyr â Sioe Fawr Llanelwedd i fod yn ofalus, ar ôl i ddyn fynd i drafferthion mewn afon yno nos Sul (Gorffennaf 21).

Anfonodd yr heddlu dimau achub i’r safle ar ôl cael gwybod am y sefyllfa, ac fe fu nifer o bobol eraill yn ceisio’u helpu hefyd.

Cafwyd hyd i’r dyn mewn dŵr dwfn oedd yn llifo’n gyflym, ac roedd pryderon y gallai fod wedi cael ei olchi ymaith.

Bu’n rhaid i’r heddlu ddefnyddio rhaff i’w dynnu i ddiogelwch y lan.

Mae’r heddlu wedi diolch i’r cyhoedd am eu cymorth.

‘Gofal piau hi’

“Yn dilyn y digwyddiad hwn, rydyn ni’n achub ar y cyfle hwn i atgoffa pobol yn yr ardal ar gyfer y Sioe Frenhinol mai gofal piau hi wrth gerdded i Faes y Sioe ac yn ôl,” meddai’r Uwch Arolygydd Gareth Grant.

“Efallai na fydd ymwelwyr â’r ardal yn ymwybodol o beryglon y rhan yma o Afon Gwy, lle mae rhannau dwfn a cherrynt cryf sy’n ei gwneud hi’n eithriadol o anodd cael allan.

“Mae yna lwybr gwyrdd wedi’i farcio allan rhwng y Sioe, y Pentre’ Ieuenctid, Fferm Penmaenau a thref Llanfair ym Muallt.

“Defnyddiwch hwn yn hytrach nag unrhyw lwybr arall rhwng y lleoliadau hyn er mwyn eich diogelwch eich hun, os gwelwch yn dda.”