Mae’r sylw i etholiad posib i ddewis arweinydd newydd Llafur Cymru a Phrif Weinidog Cymru yn “tynnu oddi ar y sgyrsiau pwysig sydd angen eu cael” yn y Sioe Frenhinol, yn ôl Plaid Cymru.
Daw eu sylwadau wrth ymateb i lansio ymgyrch arweinyddol Eluned Morgan yn Sioe Amaethyddol Frenhinol Cymru, wrth iddi geisio olynu Vaughan Gething.
Dyma’r Sioe Frenhinol gyntaf ers protestiadau ffermio mawr ar risiau’r Senedd, oedd yn galw am weithredu brys gan Lywodraeth Lafur Cymru.
“Braidd dim sylw” i ddatrys anfodlondeb ymysg ffermwyr
Bellach, mae Plaid Cymru’n galw ar y Llywodraeth i ganolbwyntio ar gefnogi’r gymuned amaethyddol, er mwyn sicrhau “dyfodol cynaliadwy” i ffermio yng Nghymru.
“Ddoe, defnyddiodd Eluned Morgan y Sioe Frenhinol fel llwyfan i lansio ei hymgyrch arweinyddiaeth Llafur,” meddai Llŷr Gruffydd.
“Mae’r saga Lafur hon yn tynnu oddi ar y sgyrsiau pwysig sydd angen eu cael yn y digwyddiad pwysicaf yng nghalendr gwledig Cymru.
“Yn ei chyfweliadau hyd yn hyn, braidd dim sylw sydd wedi’i roi i sut mae Llywodraeth Lafur Cymru’n bwriadu mynd i’r afael â’r materion go iawn arweiniodd at brotestiadau torfol gan ffermwyr yng Nghymru yn gynharach eleni.
“Tra bod Llafur yn poeni mwy am atal eu brwydr fewnol na symud Cymru yn ei blaen, mae Plaid Cymru o ddifrif ynglŷn ag ymgysylltu â’n ffermwyr.
“Nid yw ein heconomi wledig a’n diwylliant yn ddim hebddyn nhw, ac eto mae llywodraethau yng Nghaerdydd a Llundain wedi anwybyddu’r ffaith hon am gyfnod rhy hir.
“Mae Llafur yng Nghaerdydd wedi colli gafael ar bryderon ein ffermwyr, o’r Cynllun Ffermio Cynaliadwy i NVZs i TB.
“Ond yn dilyn yr etholiad cyffredinol, mae gan Lafur yn San Steffan gyfle nawr i ailosod y berthynas gyda’n sector amaeth.
“Dylai hynny fod yn flaenoriaeth, ac i wneud hynny, rhaid iddyn nhw fynd i’r afael â’r diffyg yn y gyllideb flynyddol ar gyfer amaethyddiaeth, cefnogi cynhyrchu bwyd, a chanolbwyntio ar warchod natur a gweithredu yn yr hinsawdd.
“Mae gofyn bod ffermwyr yn cyflawni mwy gyda llai o adnoddau, a hynny o dan bwysau TB, NVZs, Brexit a’r argyfwng costau byw.
“Mae Plaid Cymru wedi ymrwymo i sicrhau bod ein ffermwyr yn derbyn y cymorth ariannol maen nhw’n ei haeddu, i gynnal eu cyfraniadau hanfodol i Gymru.
“Mae’n rhaid i Lafur nawr ganolbwyntio ar gefnogi ein cymuned amaethyddol i sicrhau dyfodol cynaliadwy ffermio Cymru.”