Mae wyth ffermwr ifanc o bob rhan o Gymru wedi derbyn Ysgoloriaeth Goffa Gareth Raw Rees eleni.

Mae cyfanswm o £3,550 wedi’i ddyfarnu i ysgolheigion sy’n dymuno ehangu eu gwybodaeth am amaethyddiaeth.

Cafodd yr ysgoloriaeth ei sefydlu er cof am y diweddar Gareth Raw Rees, oedd yn ddirprwy ar Gyngor yr NFU am flynyddoedd lawer, ac yn Gadeirydd Pwyllgor Addysg yr NFU.

Roedd yn credu’n gryf fod teithio’n ffordd bwysig i bobol ifanc dderbyn addysg.

Cafodd y gwobrau eu cyflwyno eleni gan Simon Painter, Pennaeth Gwerthiant Rhanbarthol NFU Mutual yn Sioe Frenhinol Cymru heddiw (dydd Mawrth, Gorffennaf 23).

Prif enillydd

Y prif enillydd eleni yw Gwern Thomas, 25 oed o Felinfach ger Llanbed, sydd wedi derbyn £900 i helpu i ariannu ei deithiau i Awstralia.

Cafodd ei fagu ar dyddyn ei ewythr, gan weithio gyda defaid a gwartheg, ac fe gafodd ei ysbrydoli gan y diwydiant.

Ar ôl ennill cymhwyster mewn plymio, ailasesodd ei yrfa a chreu cynllun busnes gyda Cyswllt Ffermio, ac mae bellach yn rhannu’r gwaith ffermio gyda’i ewythr.

Bydd y wobr yn helpu gyda chostau ei daith, wrth iddo gymryd rhan yn rhaglen gyfnewid NFYFC yn Awstralia.

“Nid taith yn unig yw’r daith hon ond profiad dysgu canolog,” meddai.

“Drwy ymgysylltu â ffermwyr Awstralia ac arsylwi ar eu strategaethau ar gyfer hwsmonaeth anifeiliaid a rheoli cnydau, fy nod yw ennill persbectif newydd fydd yn fy ngalluogi i fynd i’r afael â’r heriau rydym yn eu hwynebu yn ôl adref yn fwy effeithiol.

“Gobeithio y bydd yn fy helpu i barhau i ddysgu er mwyn siapio fy nghymeriad, ehangu fy ngorwelion a’m grymuso i gael effaith gadarnhaol ar ddyfodol amaethyddiaeth.”

Thomas Yeomans

Mae Thomas Yeomans, 18 oed o’r Fenni, wedi derbyn £750 tuag at daith i Seland Newydd.

Mae wedi gorffen ei addysg yn Ysgol Trefynwy yn ddiweddar.

Mae wedi bod yn gweithio gyda da byw ar hyd ei oes, ar ôl cael ei fagu ar fferm gymysg y teulu.

Mae’n gweithio ar y fferm yn godro geifr, gyrru stoc a thractorau, yn ogystal â gweithio gyda nifer o ffermwyr lleol sydd â swyddi fferm gyffredinol o brofion TB a chludo silwair i gartio ŷd.

Roedd hefyd wedi dechrau profiad gwaith ar fferm ffrwythau yng Nghaint dros yr haf.

“Rwy’n bwriadu defnyddio fy nhaith i Seland Newydd er mwyn ehangu fy mhrofiadau a’m gwybodaeth am ffermio er mwyn cynyddu fy nealltwriaeth o sut mae gwahanol ffermydd yn gweithredu,” meddai.

Richard Downes

Mae Richard Downes o Langeitho ger Tregaron wedi derbyn £500 tuag at daith i Seland Newydd.

Cafodd ei eni a’i fagu ar fferm cig eidion a defaid organig yn y gorllewin.

Ers gadael addysg, mae’r gŵr 28 oed wedi dychwelyd i’r fferm deuluol i helpu i yrru’r busnes i gyfeiriad newydd.

“Rwy’n gobeithio, trwy deithio i Seland Newydd, y byddaf yn ennill syniadau newydd i helpu gyda fy natblygiad personol a busnes fy hun yn ôl adref,” meddai.

Elin Davies

Mae Elin Davies o Lanybydder wedi derbyn £400 ar gyfer ei thaith i Awstralia.

Ar ôl gorffen ei hastudiaethau mewn Gwyddorau Cynhyrchu Anifeiliaid yn Harper Adams, mae hi’n bwriadu gweithio ar fferm laeth yn Awstralia.

Mae’r ddynes 22 oed yn helpu ar fferm laeth a defaid y teulu, ac mae ganddi ei diadell ei hun o ddefaid Texel.

Mae hi bellach yn gyfrifol am ddewis pa darw i’w defnyddio ar ba wartheg.

“Fy nod tra yn Awstralia yw gweithio ar fferm laeth a gobeithio dysgu sut mae ffermydd llaeth Awstralia yn cyrraedd eu lefelau cynhyrchu o borthiant er mwyn mynd â’r gwersi hyn adref,” meddai.

Caryl Haf Davies

Mae Caryl Haf Davies o Sir Benfro wedi derbyn £350 tuag at ei thaith i Seland Newydd.

Bydd hi’n graddio o Brifysgol Aberystwyth yn yr haf gyda BSc mewn Amaethyddiaeth gyda Gwyddor Anifeiliaid.

Cafodd ei magu ar y fferm deuluol yng ngogledd sir Benfro, lle maen nhw’n rhedeg haid o ddefaid Cymreig a mamogiaid Aberfield.

Fodd bynnag, ei phrif ddiddordeb yw gwartheg Limousin.

Mae ganddi angerdd mawr wrth ddewis y teirw nesaf, trwy astudio geneteg a dewis heffrod newydd i sicrhau dyfodol y fuches.

“Bydd yr arian hwn yn fy helpu i ddilyn ôl troed fy nhad a theithio i ochr arall y byd fel y gwnaeth 30 mlynedd yn ôl,” meddai.

“Rwy’n barod i droi fy llaw at unrhyw beth, felly rwy’n edrych ymlaen at gludo silwair, godro a gweithio ar orsafoedd defaid yn ystod fy nghyfnod yn Seland Newydd.”

Lowri Williams, Lily Rose Davies a Cerys Baker

Bydd Lowri Williams o Gaernarfon, oedd wedi graddio o Brifysgol Aberystwyth ac a gafodd ei magu ar fferm laeth, yn derbyn £250 tuag at daith i Awstralia, a Lily Rose Davies, ffermwr cenhedlaeth gyntaf o Gastell-nedd, yn derbyn yr un swm tuag at daith i Seland Newydd.

Bydd Cerys Baker o Drefynwy, gafodd ei magu ar fferm gig eidion a defaid, yn derbyn £150 tuag at ei thaith i Albania.