Mynd i’r afael ag argyfwng tai yng nghadarnleoedd y Gymraeg yw nod cynllun arloesol newydd gan Fenter Iaith Conwy.

Cam cynta’r cynllun fydd cyflogi swyddog i ganolbwyntio’n benodol ar ardal Penmachno yn nyffryn Conwy.

Mae’r swydd, sy’n cael ei hariannu gan Barc Cenedlaethol Eryri ac a fydd yn para am ddwy flynedd i ddechrau, eisoes wedi cael ei hysbysebu a’r gobaith yw penodi yn ystod y mis nesaf.

‘Angen cymryd camau ymarferol’

“Cafodd y Cynllun ei sbarduno gan yr argyfwng tai sy’n taro ardaloedd ar hyd a lled y Gymru wledig gan danseilio cymunedau allweddol a dyfodol y Gymraeg,” meddai Meirion Davies, Prif Weithredwr Menter Iaith Conwy.

“Yn wyneb argyfwng o’r fath, ein teimlad oedd bod yn rhaid i’r mentrau iaith ymestyn allan y tu hwnt i weithgarwch arferol hyrwyddo’r Gymraeg.

“Er mor bwysig parhau â gwahanol weithgareddau diwylliannol a chymdeithasol i annog pobol i ddefnyddio’u Cymraeg, mae hefyd angen cymryd camau ymarferol i amddiffyn y seilwaith economaidd a chymdeithasol sy’n cynnal cymunedau Cymraeg.

“Mi wnaethon ni ddewis ardal Penmachno fel man cychwyn gan fod yr ardal wedi cael ei tharo’n arbennig o ddrwg gan brynwyr ail gartrefi a thai gwyliau.

“Yn ôl arolwg defnydd tai, mae mwy na thraean – 36% – o dai yr ardal naill ai’n wag neu’n dai gwyliau, a phobol ifanc lleol yn methu â fforddio cartref.

“Mae hefyd yn ardal lle’r ydym wedi bod yn weithgar fel menter, ar ôl sefydlu Pwyllgor Hwb y Llan ers rhai blynyddoedd, ac maen nhw wedi bod yn llwyddiannus iawn wrth greu bwrlwm yn y pentref ac adfywio adeilad yr Hen Ysgol.

“Ein gobaith bellach, mewn partneriaeth â’r Cyngor Cymuned, ydi ceisio mynd i’r afael â’r broblem sy’n bygwth tanseilio’n holl waith.

“Rydym yn ffodus iawn fod Parc Cenedlaethol Eryri wedi cyllido’r cynllun yma am ddwy flynedd i ddechrau, ac rydym yn ddiolchgar iawn iddyn nhw am eu cefnogaeth.

“Mae’n swydd sy’n llawn her a phosibiliadau i unrhyw un sydd â syniadau blaengar ac sy’n gallu trefnu gwaith yn anibynnol heb gyfarwyddyd uniongyrchol yn ogystal a gweithio efo’r gymuned.

“Mae croeso i unrhyw un sydd â diddordeb gysylltu efo fi ar meirion@miconwy.cymru am ragor o wybodaeth.”

‘Her’

“Rydym yn hynod falch o allu cefnogi’r cynllun arloesol yma i geisio ymateb i’r her argyfwng tai ym Mro Machno,” meddai Elliw Owen, Pennaeth Polisi Cynllunio Awdrudod Parc Cenedlaethol Eryri.

“Gall cynlluniau o’r fath fod yn arf allweddol i sicrhau dyfodol iaith a diwylliant ein cymunedau, a hyfywdra economi wledig Eryri”.

Y swydd

Bydd prif gyfrifoldebau’r swydd yn cynnwys:

  • ymgynghori pellach â chymuned Penmachno
  • chwilio am eiddo addas i’w perchnogi a’i osod i bobol leol
  • cydweithio gyda Chymdeithas Tai Gwynedd i hyrwyddo eu heiddo ym Mhenmacho
  • paratoi ceisiadau am arian grantiau
  • edrych ar gynlluniau codi rhandaliadau’n lleol i ariannu pryniant
  • edrych ar gynlluniau Benthyg yn Lleol i ariannu pryniant
  • arwain ar sefydlu grŵp a allai weithredu cynlluniau’n effeithiol
  • gweithio gyda galluogwyr tai gwledig i ganfod anghenion tai fforddiadwy o fewn cymunedau.