Mae gwyddonwyr o Gymru’n profi sut mae pobol yn ymateb i fwyta bwydydd â phryfed ynddyn nhw fel rhan o ymchwil i brotein gwyrdd.
Mewn gwledydd ar draws y byd, gan gynnwys Mecsico, Tseina a Ghana, mae pryfed yn rhan gyffredin o ddiet bob dydd.
Maen nhw’n cynnig ffynhonnell protein fwy amgylcheddol-gyfeillgar na llawer o fwydydd eraill, a gallen nhw gynorthwyo gyda bwydo poblogaeth gynyddol y byd.
Dangosa ymchwil bod tua 30% o gwsmeriaid yr Undeb Ewropeaidd yn fodlon bwyta bwyd sydd wedi’i wneud â phryfed.
Nod yr ymchwil hwn, sydd wedi’i ariannu gan Hwb Ymchwil Dyfodol Gwledig Prifysgol Aberystwyth, yw gweld pa mor dderbyniol yw bwydydd o bryfed i’r cyhoedd.
‘Datblygiadau cyffrous’
Roedd y sesiwn blasu diweddaraf ar ymateb pobol i fwyta brownis siocled gyda, a heb, flawd criced ynddyn nhw.
“Gyda phoblogaeth sy’n cynyddu, mae angen rhagor o ffynonellau bwyd cynaliadwy ar y byd. Gallai pryfed fod yn un o’r rheiny,” meddai’r Athro Alison Kingston-Smith o Athrofa’r Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig ym Mhrifysgol Aberystwyth.
“Mae ein profion diweddaraf yn ceisio profi ansawdd, ymwybyddiaeth a pharodrwydd y cyhoedd i dderbyn brownis sydd wedi cael eu pobi â blawd criced – ydyn ni’n gallu blasu’r gwahaniaeth mewn gwirionedd?
“Mae hwn yn bwysig achos gallai ychwanegu blawd wedi’i seilio ar bryfed ddod â buddion sylweddol – disodli protein llai cynaliadwy sy’n cael ei fewnforio, cynnig incwm newydd i ffermwyr a gwella iechyd pobol.”
Ychwanega bod pryfed yn cynnig cyfle i amaethyddiaeth a’r sector bwyd arallgyfeirio er mwyn cael mynediad at farchnadoedd newydd.
“Does dim amheuaeth bod protein pryfed yn derbyn sylw cynyddol yn y sector bwyd, a bydd ein hymchwilwyr yn rhan o’r datblygiadau cyffrous hynny,” meddai’r Athro Kingston-Smith.