Dyma frechdan syml a blasus. Mae’r enw yma yn llythrennol yn golygu ‘bara pysgod’. I’w flasu ar ei orau, bydd angen ffilet ffres o’r dŵr. Ond lle nad yw hynny yn bosibl, gallwch fynd at werthwr pysgod. Hyd y gwn i, nid oes un rysáit benodol ar gyfer Balik Ekmek, felly dyma fersiwn o’r frechdan dw i’n ei mwynhau. Croeso i chi ychwanegu neu dynnu beth fynnoch chi.


Beth fyddwch chi ei angen?

Macrell

Plu tsili

Olew olewydd

Bagét

Pupur gwyn

Dail mintys

Sudd lemwn

Tomato

Nionyn coch

Mayonnaise


Paratoi

Torrwch ychydig o ddail mintys, nionyn coch a thomato, a’u rhoi i’r naill ochr.


Creu

Coginiwch y macrell ar y ddwy ochr ar radell gydag olew nes ei fod yn frown, ac ychwanegu pupur a halen.

Torrwch y bagét.

Gwasgarwch mayonnaise tu mewn i’r bagét.

Gosodwch y pysgodyn ar y bara.

Gosodwch y mintys, nionyn coch a’r tomato mewn bagét.

Gwasgwch sudd lemwn dros y cyfan, cyn ychwanegu ychydig o blu tsili, pupur a halen fel y mynnoch.

Eisteddwch yn ôl, a mwynhewch!