Dw i wrth fy modd efo bwyd stryd. Mae’r bwydydd stryd gorau yn rai llawn blas, yn gyflym i’w gwneud ac yn ffres. Mae bwyd stryd yn cael ei fwynhau bellach mewn llu o ddiwylliannau ledled y byd, ond mae’r syniad yn deillio o’r hen amseroedd yn Rhufain lle byddai gwerthwyr stryd yn gwerthu bwyd a byrbrydau i’r cyhoedd. Yn ddiweddarach, fe wnaeth y cysyniad o fwyd stryd ymestyn i gyfandir Asia, lle daeth marchnadoedd a stondinau bwyd yn rhan ganolog o draddodiadau bwyd gwledydd fel Gwlad Thai, India a Tsieina.

Ond does dim rhaid bod allan nac mewn gwlad dramor i fwynhau bwyd stryd – mae’n bosibl creu’r bwydydd yma fel prydau cyflym a ffres gyda’r nos. Mi gefais i rywbeth tebyg iawn i hyn yng Ngroeg ychydig flynyddoedd yn ôl, ac ers hynny dw i wedi ychwanegu sbeisys a chynhwysion i blesio fi fy hun. Yr hyn sy’n wych am fwyd stryd ydi bod modd bod mor greadigol ag ydach chi eisiau, gan hepgor neu ychwanegu pethau fel y mynnoch. I’r rhai anturus yn eich plith, mi fedrwch chi wneud eich bara eich hunain – ond mae modd prynu flatbreads hefyd mewn siopau bwyd am bris digon rhesymol.


Beth ydw i ei angen?

Cyw Iâr mawr amrwd

4 flatbread Indiaidd mawr gyda garlleg a choriander

Pupur oren, coch a melyn

1 nionyn mawr

Tsilis ffres

Caws Mozzarella

2 lwy de o chilis sych wedi’u torri’n fan

2 lwy de o chipotle chili flakes

2 segment mawr o garlleg

1 llwy fwrdd o chives

2 lwy fwrdd o Olew Olewydd

Mayonnaise

Ffoil


Paratoi a choginio

· Gwresogwch y popty i farc nwy 5

· Rhowch y cyw iâr i mewn am 1 awr 35 munud

· Rhowch tsili sych, chipotle chili flakes a’r chives mewn powlen a’u cymysgu gyda 2 lwy fwrdd o olew olewydd

· Torrwch y nionod, pupur, chilis ffres a’r garlleg yn fan yn barod i’w ffrio

· Ffriwch y cyfan – ond gofalwch nad ydych chi’n eu llosgi, yn ddelfrydol dylech weld ychydig o ddu, ond fe ddylai’r gymysgedd ddal gael y ‘crunch’ ffres hwnnw

· Hanner awr cyn amser coginio terfynol y cyw iâr (sef ar ôl tuag awr o ginio) tynnwch y cyw iâr o’r popty a gwasgaru’r gymysgedd sbeislyd o’r bowlen a’i rwbio ar y cyw iâr. Peidiwch â brysio, gofalwch ei wasgaru’n llwyr a chyfan gwbl.

· Ar ôl 1 awr a 35 munud, tynnwch y cyw iâr allan o’r popty a’i adael i sefyll am gwpl o funudau.

· Rhowch ambell ddiferyn o ddŵr ar y flatbreads gan wasgaru mozzarella ar eu hyd

· Rhowch y bara yn y popty nes mae’r mozzarella yn feddal a chyrion y bara yn frown golau

· Cerfiwch y cyw iâr gan ofalu peidio gwastraffu

· Rhowch y cyw iâr a’r gymysgedd sydd wedi’i ffrio yn y bar, ychwanegwch unrhyw saws o’ch dewis (e.e.. mayo, mwstard, salad cream …) cyn ei rowlio yn dynn a’i gau mewn ffoil.

· Mwynhewch y wledd!