Mae hi’n dal yn adeg o’r flwyddyn lle mae mawr angen bwyd cynnes a chysurus. Dyma enghraifft o ginio sydyn gyda blasau sy’n bowld a thu hwnt o flasus wnaiff gynhesu’r stumog a’r enaid. Pryd syml a diffwdan i bawb ei fwynhau, ac mae’r cynhwysion ar ein stepen drws.
Pam caws Cambozola? Caws hufennog yw Cambozola, sy’n gyfuniad o Camembert a Gorgonzola. Mae’r caws yn cyfuno ansawdd hufennog camembert gyda blasau caws glas Gorgonzola.
Beth ydw i ei angen?
Torth ffres
Madarch coetir
Cambozola
Garlleg
Teim
Paratoi a choginio
Torrwch bedair sleisen swmpus o’r dorth ffres
Rhowch olew olewydd mewn padell a thorri faint fynnoch o fadarch coetir, gan wasgu garlleg amrwd am eu pen i’w ffrio gan ychwanegu dwy lwy fwrdd o ddŵr
Tra bo’r madarch yn coginio, torrwch y caws Cambozola yn stribedi trwchus i’w rhoi ar y sleisys bara.
Pan fo’r madarch yn feddal ac wedi’u gwneud, tywalltwch y madarch a’r garlleg am ben y Cambozola – a pheidiwch â bod yn swil!
Rhowch y brechdanau dan beiriant brechdanau tôsti a’u coginio.
Os nad oes gennych beiriant tôstis, mae’n bosibl eu dal i lawr mewn padell (gradell os yn bosibl), a’u troi nes eu bod wedi coginio ar y ddwy ochr.
Mwynhewch!