Does yna ddim llawer o ddim byd neisiach ar y penwythnos na byrgyr – ac nid o rywle fel McDonald’s, ond un ffres wedi’i wneud gartre’. Mae’n syml, di-ffwdan a chyflym. Gallen ni dalu £5 yn braf am un byrgyr mewn siop bwyd cyflym/cyfleus – pan allen ni fwynhau cynnyrch ffres gartref am gyfran o’r pris. Gallwn fod mor anturus â phosibl wrth ddewis ein cynhwysion, felly saff dweud bod yna fyrgyr at ddant pawb!


Beth ydw i ei angen?

750g mins eidion

Tomatos

Letys

Caws

Nionyn

Garlleg

Rôls

Mayonnaise, sôs coch neu saws o’ch dewis


Coginio

Rhowch y mins mewn powlen

Torrwch nionyn yn fân ynghyd â garlleg

Cymysgwch y nionyn a’r garlleg i mewn yn y mins, ynghyd â phupur a halen fel yr hoffech

Gwnewch beli o’r mins cyn eu gwasgu i lawr yn eithaf fflat

Rhowch ychydig o olew olewydd mewn padell a ffrio’r byrgyrs am ychydig eiliadau ar bob ochr, gan gofio eu troi hefyd i goginio ochr y byrgyrs cyn eu rhoi yn y popty ar wres uchel am ryw ddeng munud.

Agorwch y rôls a’u cynhesu am ychydig ar badell boeth am ychydig eiliadau i gael y crunch yna ar y tu mewn, sydd wastad mor braf!

Tra bo hyn yn digwydd, torrwch ragor o nionyn, tomatos a letys a rhowch y letys ar y rôls a’r byrgyrs o’r popty cyn ychwanegu caws o’ch dewis. Fy newis i tro hyn oedd Red Leicester ac Applewood, ond gallwch ddewis beth bynnag a fynnoch.

I orffen, cymysgwch y byrgyrs yn y popty am ychydig funudau i gael y caws nefolaidd yna wedi’i feddalu’n fendigedig.

Ac wedyn – y darn gorau! Ewch amdani, a mwynhewch bob cegaid!