Mae hi wedi oeri yn arw yn ddiweddar, a chyda’r tymheredd yn gollwng dwi’n gweld fy hun yn meddwl am bwysigrwydd haenau. Dim syndod felly mai seren fy sioe yma yw’r nionyn! Mae gennym lawer yn gyffredin, a’r peth amlycaf yw bod ein cyfansoddiad ninnau, fel y nionyn, yn llawn dŵr! Pa fodd, felly, y gallwn ddod yn un? Dyma gwrs cyntaf diddorol a syml i gynhesu calon unrhyw un!


Beth fydda i ei angen?

3 nionyn mawr gwyn

Caws (o’ch dewis)

Nionyn gwyrdd (mae cennin yn gweithio’n dda hefyd!)

Pupur a halen


Coginio

Torrwch yr ychydig lleiaf oddi ar waelod y nionyn i gael gwaelod fflat (dim gormod). Rydan ni angen osgoi twll yng ngwaelod y nionyn!

Torrwch dop y nionyn (ryw 3cm)

Gan ddefnyddio cyllell / llwy / llwy hufen iâ – tynnwch ganol y nionyn allan a gadael ychydig o ymyl ar ôl (Gwnewch hyn gyda’r nionod i gyd). Cymerwch ofal i gadw’r nionyn sy’n weddill mewn bocs bwyd yn y rhewgell. Gallwch ei ddefnyddio eto!

Pliciwch groen y nionod a’u rhoi yn yr ‘air fryer’ am oddeutu awr ar 160.

Ychydig funudau o’r diwedd, llenwch y nionod â chaws o’ch dewis, pupur a halen, a’u gadael i feddalu (Gallwch roi madarch, cig neu beth bynnag a fynnwch hefyd).

Yn olaf, rhowch y cyfan ar blât, ac ychwanegwch nionyn gwyrdd.

Mwynhewch!