Mae myfyrwyr ym Mangor wedi bod yn cydweithio â Chyngor y ddinas i roi prydau am ddim i bobol sydd eu hangen.

Cychwynnodd y cynllun ddiwedd mis Medi, ac mae prydau poeth ar gael bob dydd Sadwrn yng nghanol Bangor.

Rhoddodd Cyngor Dinas Bangor £1,500 i’r prosiect er mwyn prynu offer cegin newydd a llogi Neuadd Penrhyn ger gorsaf bysiau Bangor.

Myfyrwyr sydd wedi bod yn arwain y cynllun ac yn ôl Ben Chandler, arweinydd Prydau Poeth a’r un gafodd y syniad o’i sefydlu, maen nhw wedi bod yn rhedeg allan o fwyd bob wythnos, cymaint yw’r galw.

“Rwy’n hynod o falch o ba mor llwyddiannus y mae’r prosiect hwn wedi bod hyd yma,” meddai.

“Roeddwn i eisiau helpu unrhyw un oedd angen pryd poeth.

“Mae’r Undeb Myfyrwyr wedi bod yn help mawr, yn ogystal â phawb sydd wedi gwirfoddoli hyd yma.

“Rwy’n gobeithio y gwnawn ni helpu mwy fyth o bobl yn y dyfodol.”

‘Un nod’

Mae’r bwyd sy’n cael ei weini yn addas ar gyfer llysieuwyr a phobol sy’n bwyta cig, a dydyn nhw ddim yn gofyn unrhyw gwestiynau i bobol sy’n dod y gael y bwyd.

“Rwy’n teimlo’n ddiolchgar iawn am gael gweithio gyda gwirfoddolwyr sy’n fyfyrwyr sy’n cydnabod yr heriau y mae llawer o bobol yn ein cymuned yn eu hwynebu, yn enwedig oherwydd yr argyfwng costau byw,” meddai Josie Ball, Cydlynydd Gwirfoddoli a Chymuned Undeb Bangor.

“Maen nhw wirioneddol eisiau cefnogi.

“Mae’r Prosiect Prydau Poeth yn enghraifft berffaith o’r math o ymgyrch yr ydym ni’n anelu i’w chefnogi yn Undeb Bangor, lle mae arweinwyr myfyrwyr fel Ben yn dod atom gyda syniad, ac rydym ninnau’n darparu’r gefnogaeth weithredol i ddod â’r prosiect yn fyw.

“Mae gallu annog cydweithio gyda phartneriaid fel Cyngor Dinas Bangor, sy’n rhannu’r un gwerthoedd a’r un nod, yn well eto fyth.”

Ben Chandler a Josie Ball tu allan i Neuadd Penrhyn ym Mangor

‘Mwy na hapus i gymryd rhan’

Ychwanega Llinos Fon Jones, Dirprwy Gyfarwyddwr Cyngor Dinas Bangor, ei bod hi’n “falch iawn” o fod yn rhan o’r cynllun llwyddiannus.

“Mae’n rhywbeth yr wyf wastad wedi bod eisiau ei gychwyn yn y gymuned, gyda mwy a mwy o bobl yn ei chael hi’n anodd bob dydd,” meddai.

“Felly, pan ddaeth Ben ataf, roeddwn i’n fwy na hapus i gymryd rhan.

“Hefyd, ar ran y cynghorwyr, hoffwn ddiolch i fyfyrwyr anhygoel y brifysgol sydd wedi rhoi llawer o’u hamser i helpu pobl Bangor.”

Mae’r prydau ar gael yn Neuadd Penrhyn bob dydd Sadwrn rhwng 3yp a 6yh.