Mae’r gyfres yma’n bwrw golwg ar atgofion rhai o wynebau cyfarwydd Cymru am fwyd a sut mae hynny wedi dylanwadu eu harferion bwyta heddiw. Y gogyddes Colleen Ramsey sy’n rhannu ei hatgofion bwyd yr wythnos hon. Fe fydd hi’n dychwelyd gydag ail gyfres o Colleen Ramsey: Bywyd a Bwyd ar S4C ar 20 Rhagfyr. Mae hi’n dod o Gaerffili yn wreiddiol a bellach yn byw yng Nghaerdydd gyda’i gŵr, y pêl-droediwr Aaron Ramsey a’u tri mab…

Dw i’n cofio mynd efo Mam i farchnad Caerdydd a phrynu clams a mussels ac wedyn mynd adre a bwyta nhw mewn pot mawr fel teulu gyda bara ffres. Roedd Mam yn dda yn y gegin ac roedd amser teuluol yn bwysig i ni o gwmpas y bwrdd amser swper.

Mae cinio Dydd Sul neu ginio rhost yn sbesial yn enwedig pan roedden ni’n byw yn yr Eidal ac yn gweld eisiau ein teulu a bwydydd cartrefol fel cinio rhost.

Colleen gyda’i gŵr, y pêl-droediwr Aaron Ramsey a’u tri mab
Cinio rhost – llun o’r llyfr coginio Colleen Ramsey – Bywyd a bwyd / Enjoying life through food gan Y Lolfa

Os dw i eisiau cysur dw i’n hoffi brechdanau a chreision – mae hwnna yn trît hyfryd – mor syml ac mor flasus!

Dw i’n ffan fawr o sushi ac mae sushi o safon dda yn trît mawr. Dydy sushi ddim yn rhywbeth dw i’n paratoi adre yn aml, felly pan dw i’n mynd allan am fwyd bydda’i fel arfer yn dewis bwyd Siapaneaidd.

Yn yr haf mae blas lemwn a lemonêd yn dod ag atgofion hapus yn ôl – a bwydydd ffres. Ym misoedd y Gaeaf dw i’n mwynhau blasau mwy moethus, ac yn hoff iawn o ddefnyddio cnau mewn llawer o ryseitiau. Mae cnau yn atgoffa fi o amser y Nadolig – fflamau’r tân gyda chnau a bach o Baileys.

Os dw i’n coginio bwyd i bobl eraill dwi’n gwneud cig oen wedi’i rostio’n araf fel bod y cig yn cwympo i ffwrdd o’r asgwrn, wedi’i weini gyda dips fel Tzatziki a hummus. A salad ffres gyda pomegranates a chaws Feta. Mae hyn yn opsiwn poblogaidd a defnyddiol mewn parti.

Cacen gaws

Fy hoff rysáit ydy fy nghacen gaws melys. Mae’r rysáit yn hyfryd fel mae e gyda’r meringue ar ben ond gallech chi ei addasu yn hawdd i newid y blasau, sydd yn golygu ei fod yn rysáit handi iawn.

Mae’r rysáit ar gael yn y llyfr Colleen Ramsey – Bywyd a bwyd/Enjoying life through food (Y Lolfa).

Colleen Ramsey: Bywyd a Bwyd, S4C, Nos Fercher, 20 Rhagfyr am 9pm