Mae’n nos Wener, ychydig o ddiwrnodau cyn diwrnod talu cyflog. Mae hi wedi bod yn wythnos galed ac yn goron ar bopeth, mae’r oergell yn wag a’r plant yn cwyno eu bod nhw’n ‘llwgu’. Têc awê, efallai?

Ond gyda’r esgid yn gwasgu, dyw gwario £60 ar bryd i bawb ddim yn opsiwn. Ond mae yna ateb arall, llawer symlach. Ac efallai y bydd yn eich synnu mai dim ond edrych yn ôl i hanes Tsiena 2000 o flynyddoedd yn ôl yn ystod brenhinlin Han sydd rhaid gwneud.

Beth, felly, am ‘ffêc awê’ Stir Fry Asiaidd i bawb? Cafodd y ‘Stir Fry’ ei ddatblygu fel techneg goginio oedd yn caniatáu i fwyd gael ei goginio’n gyflym ac effeithlon dros wres uchel, gan ei wneud yn ddelfrydol ar gyfer ffordd o fyw pobol brysur Tsieina bryd hynny. Bellach, mae’n bryd sy’n cael ei ddathlu ledled y byd. Gallwch arbrofi gyda chynhwysion, blasau a thechnegau coginio i ddiwallu eich anghenion neu flasau personol eich hunain. Mae’n bryd iachus ac yn bryd sy’n eich llenwi. Ewch amdani! Bydd gennych bryd maethlon ac iach, a hynny mewn cyn lleied â deng munud!


Beth ydw i ei angen?

Cyw iâr (3 ffiled)

Nwdls

Garlleg

Tsili

Nionod

Sinsir

Galangal

Lemongrass

Pak Choi

Madarch Enoki

Saws wystrys

Saws ysgafn Soy

Saws ‘crispy chili

Saws Pad Thai

Saws Sambal Tumis


Coginio?

Berwch y nwdls am ddau i dri munud cyn eu ffrio ar wres uchel.

Yna, bydd angen paratoi a thorri garlleg, tsili, nionod, sinsir, Galangal, Lemongrass, Pak choi, madarch yn fan.

Coginiwch 3 ffiled cyw iâr ac yna eu torri’n giwbiau mân

Ychwanegwch yr holl lysiau rydych wedi’u paratoi a’u cymysgu gyda’r nwdls a’r cyw iâr cyn ychwanegu llwy de o’r saws wystrys a’r saws Soy ysgafn.

Yna, ychwanegwch y ddau sachet o Pad Thai a Sambal Tumis.

Cymysgwch y cyfan yn dda cyn gadael i’r cyfan sefyll am gwpl o funudau.