Mae cronfa gwerth £300,000 i ddarparu cymorth i wyliau a digwyddiadau bwyd a diod ledled Cymru yn agor i geisiadau heddiw (dydd Sadwrn, Gorffennaf 1).
Bydd y cynllun grantiau bach, fydd yn mynd i’r afael â deg cam allweddol ‘Gweledigaeth ar gyfer y Diwydiant Bwyd a Diod’ Llywodraeth Cymru, yn cefnogi gwyliau a digwyddiadau i ychwanegu gwerth at y diwydiant yng Nghymru, a’r nod yw gwella mynediad ymwelwyr at fwyd a diod o Gymru, a’u hymwybyddiaeth ohonyn nhw.
Mae hefyd yn ceisio annog cydweithredu rhwng busnesau lletygarwch a bwyd a diod Cymru er mwyn gwneud mwy o ddefnydd o fwyd a diod lleol, a chynyddu faint o fwyd a diod o Gymru sy’n cael ei gynnig ar fwydlenni ac mewn siopau manwerthu.
Mae’r cynllun yn agored i wyliau a digwyddiadau sy’n cael eu cynnal hyd at Fawrth 31 y flwyddyn nesaf.
Mae’n dwyn ynghyd feysydd bwyd-amaeth, prosesu bwyd, cyrchfannau twristiaeth, y sector gwasanaeth bwyd, gwyliau bwyd a mannau manwerthu bwyd mewn un cynllun.
Gwobrwyo syniadau arloesol
“Bydd y cynllun grantiau bach hwn yn darparu cymorth i wyliau a digwyddiadau bwyd sydd â syniadau arloesol ar sut i hyrwyddo bwyd a diod o Gymru,” meddai Lesley Griffiths, Gweinidog Materion Gwledig Cymru.
“Mae bwyd a diod o Gymru yn mynd o nerth i nerth, gyda llawer o gynnyrch cyffrous, a chynnyrch o ansawdd uchel ar gael.
“Rwy’n falch o allu cyhoeddi bod y cynllun grantiau bach hwn nawr ar agor, er mwyn cefnogi gwyliau a digwyddiadau i ledaenu’r gair am ansawdd gwych y bwyd a’r diod sydd gennym yma yng Nghymru.
“Bydd yn elwa ar y buddion economaidd o ddarparu profiad diwylliannol arbennig, unigryw, o ansawdd uchel i ymwelwyr, yn adeiladu rhwydweithiau ac yn addysgu busnesau.”