Rydan ni’n mynd yr holl ffordd o Gymru i Texas yn yr Unol Daleithiau ar gyfer y pryd arbennig hwn – 4,860 o filltiroedd awyr i ffwrdd, a bod ychydig yn fanylach.

Mae’r caserol yn dyddio ’nôl i’r 1940au-50au, ond bellach yn cael ei fwynhau mewn gwledydd o amgylch y byd.

Yn ogystal â bod yn bryd gwych i’w rannu, yr hyn sy’n grêt am y caserol hwn yw fod modd ei goginio ymlaen llaw a’i weini pan ydych chi’n barod i wneud hynny. Mae hyn yn arbed amser a gall wneud cynllunio prydau yn fwy effeithiol.

I ffwrdd â ni, felly, ar antur goginio arall! Mae’r caserol hwn yn gyfuniad perffaith o’r hufennog a’r cawslyd.


Beth ydw i ei angen?

Olew coginio (2 lwy fwrdd)

Hanner cwpan o bupur lliwgar

Hanner cwpan o nionod wedi’u torri’n fân

Tun o gawl cyw iâr hufennog

14.5 owns o domatos a tsili wedi’u torri’n fân

2 gwpan o gyw iâr (‘chicken breast’ wedi’u coginio a’u torri)

6 tortilla 12 modfedd wedi’u torri’n ddarnau triongl

3 cwpan o gaws cheddar wedi gratio

Yn ddibynnol ar yr hyn sy’n cymryd eich ffansi, fe allwch chi hefyd ychwanegu garlleg a chennin, er na wnes i dro hyn!


Coginio

Cynheswch y popty i 325°F.

Toddwch y menyn mewn sosban dros wres canolig.

Ychwanegwch bupur lliwgar a nionyn wedi’i dorri’n fân a’u coginio am 2-3 munud, neu nes eu bod yn dechrau meddalu.

Ychwanegwch gawl hufen cyw iâr, tomatos wedi’u deisio a tsili, a chyw iâr at y pupur a’r nionod, a’i gymysgu gyda’i gilydd.

Chwistrellwch eich dysgl gaserol gydag olew coginio.

Ychwanegwch 1/3 o stribedi tortilla i waelod y ddysgl, ac yna 1/3 o’r cymysgedd cyw iâr a chawl, ac 1 cwpan o gaws. Ailadroddwch hyn ddwywaith eto, gan orffen gyda chaws.

Pobwch heb ei orchuddio am 30-40 munud neu nes ei fod yn boeth ac yn ffrwtian.

Mwynhewch!