Wrth i’r dyddiau ymestyn a haul hyfryd y Gwanwyn fwrw ei lewyrch arnom: tybed ydych chi, fel fi, yn eistedd o flaen bwndel cylchgronau gwyliau yn pendroni lle ga’i fynd o fewn y misoedd nesaf i fwynhau ychydig o wres, bwyd a diod blasus?
Mae’r pryd hyfryd ac iachus hwn yn mynd â ni yr holl ffordd i dde-ddwyrain Ewrop, ac i grud hanesyddol gwareiddiad y gorllewin – ynysoedd godidog Groeg. Beth am drio Pitas Porc Groegaidd Cegin Medi?
Be’ dw i ei angen?
Porc (2.16kg)
Bara Pita
Ciwcymbr
4 pupur
Nionod
Iogwrt
Garlleg
Lemwn
Pupur a halen
Paratoi
Tynnwch groen y ciwcymbr a thorri pob ochr. Gratiwch giwcymbr i mewn i bowlen. Rhowch halen am ei ben a’i adael am 10-15 munud i dynnu’r dŵr allan ohono. Rhowch y ciwcymbr ar gadach caws da a gwasgu gweddill y dŵr allan ohono. Rhowch ddwy gwpanaid o iogwrt Groegaidd mewn powlen a chyfuno’r ciwcymbr. Gwasgwch y garlleg i mewn i’r iogwrt a lemwn ffres ynghyd ag ychydig o paprika a phupur a halen. Cymysgwch bopeth. Rhowch glingffilm am ei ben a’i adael am o leiaf bedair awr i’r blasau ddatblygu.
Coginio
Sgoriwch y porc ac ychwanegu perlysiau o’ch dewis i’w rhwbio i mewn i’r cig.
Rhowch y porc yn y popty am 1 awr a 50 munud. Tynnwch y porc allan, a sicrhau bod yr hylif yn rhedeg yn glir.
Torrwch y porc yn ddarnau mân.
Torrwch y pupur lliwgar a’r nionod ac ychydig o arlleg, a ffrïwch y cymysgedd nes ei fod yn ‘chargrilled’.
Torrwch flaen y pita a’i lenwi gyda’r pupur bob lliw, y nionod a’r porc.
Llenwch ddysgl fach bob un o’r tzasiki cartref, a’i gyflwyno hefo’r bara pita. Mwynhewch!