Nid unrhyw benwythnos arall mo’r un a fu, ond penwythnos Gŵyl Fwyd Caernarfon 2023. Yn dilyn adborth y llynedd roedd mwy o stondinau bwyd stryd nag erioed yn yr ŵyl fwyd eleni, ac fe heidiodd trigolion yn eu miloedd i fwyta, yfed a mwynhau diwylliant lleol.

Dyma ŵyl sy’n gwrando ar ei chynulleidfa. Mae lle pendant i longyfarch y trefnwyr am wrando ar lais y bobol gan weithredu ar newidiadau fel hyn. Bu’r pwyllgor trefnu hefyd yn agored iawn ar y we a phlatfformau cymdeithasol, oedd yn sicr yn ychwanegu at y cyffro cyn yr ŵyl.

Roedd yna dri lleoliad newydd yn yr ŵyl eleni a phedwar llwyfan i gyd yn cynnig platfform i dalentau lleol, ond hefyd i grwpiau mwy adnabyddus fel Band Pres Llareggub. Braf iawn oedd gweld disgyblion ifanc Ysgol Syr Hugh Owen yn cyfrannu at yr ŵyl. Roedd eu presenoldeb yn dod â theimlad o gymuned i’r digwyddiad. Nid dim ond Gŵyl Fwyd yng Nghaernarfon yw’r digwyddiad, ond Gŵyl Fwyd ar gyfer trigolion yr ardal. Bydd gŵyl fel hon yn dod yn rhan o atgofion cenedlaethau iau o fwyd, diwylliant ac adloniant yn yr ardal.

Roedd mynediad i’r ŵyl, yn ôl yr arfer, am ddim gyda gwirfoddolwyr yn casglu cyfraniadau gan y cyhoedd. Roedd amrywiaeth eang ymhlith y cynnyrch eleni, gyda phopeth o fwyd stryd i fwyd rhyngwladol, diodydd, byrbrydau, danteithion melys, hufen iâ, celf a chrefft ac ati.

Bu i 30,000 o bobol fynychu’r ŵyl y llynedd, a gyda’r haul ar entrych yr awyr roedd teimlad bod yr ŵyl yn fwy nag erioed o’r blaen. Roedd gan unigolion y cynnig i brynu cwpanau amlbwrpas eleni, gyda’r trefnwyr yn ymdrechu i weithio tuag at gynnal gŵyl ddi-blastig. Dros y blynyddoedd, mae’r ŵyl wedi tyfu tu hwnt i bob disgwyl, gydag ymroddiad a gwaith caled y pwyllgor yn talu ar ei ganfed. Gyda’r ŵyl ond newydd ei chynnal, mae’n aneglur eto faint o gyfraniadau a gafwyd, ond gyda’r ŵyl yn costio dros £40,000 daw rhywun i obeithio y bydd trigolion wedi cefnogi yn hael. Ffaith hynod galonogol i’w chlywed oedd, am bob punt gafodd ei gwario mewn busnes annibynnol mae 60 ceiniog yn aros yn lleol.

Un o’r pethau rwy’n ei hoffi’n benodol am Ŵyl Fwyd Caernarfon yw’r teimlad lleol ynglŷn ag o, gyda busnesau fel Afallon Môn yn gwerthu eu cynnyrch, Ffynnon Môn, Cig Carw Llyn (i enwi ond ychydig o fusnesau). Roedd yna ddewis bwydydd rhyngwladol hefyd, fel bwyd De Affricanaidd gan Ja Vir Kos, bwyd Mecsicanaidd gan Pontoon, Cegin Caribî a llawer iawn mwy. Roedd yna fwyd môr o bob math, nwdls blasus, pizza steil Napoli, focaccia ffres, ac eto llawer iawn mwy.

Gyda’r ŵyl yn tyfu’n flynyddol, mae gofyn faint yn fwy y gall hi fynd. Efallai bod ystyriaethau i’w chynnal dros gyfnod o benwythnos yn hytrach na diwrnod yn unig. Os oedd yna un sylw cyffredin o enau pobol, y ffaith ei bod hi mor brysur neu’n packed oedd hynny. Felly yn sicr, mae mwy na digon o ddiddordeb i warantu’r syniad yma a’i chynnal dros ddeuddydd. Ond byddai’n drueni gwneud hyn ar draul colli natur gartrefol yr ŵyl.

Anodd credu mai ychydig flynyddoedd oed yn unig yw’r ŵyl, gyda’r gyntaf wedi’i chynnal yn 2016. Am ŵyl mor ifanc, mae’n ŵyl aeddfed. Mae’r miloedd a heidiodd i’r ŵyl eleni yn brawf o un peth, bod hwn yn nodyn yn nyddiadur pobol nad ydyn nhw eisiau ei golli. Camp a hanner yw gallu darparu digwyddiad sydd mor agos at ein calonnau i gyd.

Lluniau: Gŵyl Fwyd Caernarfon

Elin Wyn Owen

Roedd y digwyddiad yn fwy nag erioed eleni, gyda 183 o stondinau yn gwerthu amrywiaeth o fwyd oer a phoeth, byrbrydau a bwyd stryd