Dychwelodd Gŵyl Fwyd Caernarfon ddydd Sadwrn (Mai 13) am y chweched tro.
Mae’r ŵyl gychwynnodd yn 2016 yn cael ei threfnu gan griw o wirfoddolwyr, ac mae’n denu degau o filoedd o ymwelwyr bob blwyddyn.
Roedd y digwyddiad yn fwy nag erioed eleni, gyda 183 o stondinau yn gwerthu amrywiaeth o fwyd oer a phoeth, byrbrydau a bwyd stryd.
Yn ogystal â’r stondinau bwyd a chelf a chrefft, roedd pedwar llwyfan yn cynnig cerddoriaeth fyw gan berfformwyr lleol, gan gynnwys Ciwb, Elis Derby, Alis Glyn, Meinir Gwilym a mwy.
Dyma ddetholiad o luniau a dynnwyd gan y ffotograffydd Richard Jones.
❝ Gŵyl Fwyd i’w chofio yn Nhre’r Cofi
Colofnydd bwyd golwg360 sy’n bwrw golwg yn ôl dros yr Ŵyl Fwyd Caernarfon fwyaf eto