Mae’r cogydd Jamie Oliver wedi canmol gwaith tîm arlwyo Ysgol Gynradd Dinbych-y-pysgod, ac mae’r prif gogydd wedi dweud bod y ganmoliaeth yn “hyfryd.”
Cyrhaeddodd y tîm restr fer Gwobr Pencampwyr Timau Arlwyo a oedd yn rhan o Wobrau Bwyd Ysgol Dda Jamie 2023, ar ôl i’w hymdrechion wneud argraff ar y beirniaid.
Roedd tystysgrif a anfonwyd at y tîm yn cynnwys neges gan y cogydd poblogaidd yn eu llongyfarch.
Mae’r tîm arlwyo yn coginio prydau i blant Ysgol Gynradd Dinbych-y-pysgod, ac yn darparu prydau i Ysgol Teilo Sant, Canolfan Dysgu Penalun, Ysgol Maenorbŷr ac Ysgol Hafan y Môr – tua 500 o brydau’r dydd.
“Mae’n hyfryd cael canmoliaeth gan Jamie Oliver,” meddai Lisa Roberts, y prif gogydd, wrth golwg360.
“Pan gawsom yr enwebiad, pan oedden nhw eisiau’r holl wybodaeth, doeddwn i ddim yn sylweddoli faint rydyn ni’n ei wneud fel tîm.
“Roedd yn dipyn o syndod.
“Roedd yn sioc i ni faint rydym yn ei wneud mewn gwirionedd, y prydau ysgol ychwanegol i’n plant.”
Mae defnyddio cynnyrch lleol, iach yn bwysig i’r cogydd, er lles diet ac er mwyn cefnogi busnesau Sir Benfro.
Diwrnod Alzheimer’s
Bu farw mam Lisa Roberts gydag Alzheimer’s, a bob blwyddyn mae disgyblion a staff Ysgol Gynradd Dinbych-y-pysgod yn gwisgo fel corachod ar Ddiwrnod Corrach, diwrnod sy’n cael ei drefnu tua’r Nadolig gan y Gymdeithas Alzheimer’s er mwyn codi arian.
“Cogydd ysgol oedd fy mam, bob blwyddyn am y chwe blynedd diwethaf, mae’r ysgol gyfan yn gwisgo i fyny ar gyfer y Diwrnod Corrach,” eglura Lisa Roberts, sydd wedi bod yn gweithio i Gyngor Sir Benfro ers 21 mlynedd.
“Rydym wedi codi dros £1000 ar gyfer Alzheimer’s.”
‘Barod i helpu’
Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Addysg a’r Gymraeg, y Cynghorydd Guy Woodham, bod Lisa Roberts yn aelod teyrngar, ymroddedig o’r staff arlwyo.
“Mae hi a’i thîm yn gyn-enillwyr gwobr Tîm Arlwyo’r Flwyddyn Cymru ar lefel ranbarthol a chenedlaethol gan Gymdeithas Arlwywyr yr Awdurdodau Lleol,” meddai.
“Maen nhw bob amser yn barod i helpu unrhyw gegin ysgol arall ac maen nhw’n gwneud y gorau o’r cyfleusterau gwych sydd ganddyn nhw yn y gegin.
“Llongyfarchiadau ar y gydnabyddiaeth ddiweddaraf hon o’r gwaith arbennig rydych chi’n ei wneud er budd ein plant!”