Bydd Gŵyl Fwyd Caernarfon yn cael ei chynnal ar ddydd Sadwrn, Mai 13, gyda mynediad yn rhad ac am ddim.

Bydd amrywiaeth o stondinau ar gael yn cynnwys stondinau bwyd oer a phoeth, diod, byrbrydau a bwyd stryd, gyda rhywbeth at ddant pawb!

Mae trefnwyr yr ŵyl wedi sicrhau bod mwy o stondinau bwyd stryd ar gael eleni ar ôl derbyn adborth yn dilyn yr ŵyl y llynedd. Y llynedd, roedd 24 stondin bwyd – eleni, mae 40!

Medi Wilkinson fu’n sgwrsio gyda thri o’r stondinwyr eleni…


Dod â ‘lliw ac heulwen’ bwyd De Affrica i Dre

Ja Vir Kos (Bwyd stryd De Affrica)

Llysiau, perlysiau, sbeisys, cyri, dwmplenni a selsig yw bwyd Ja Vir Kos, dan law medrus y gogyddes Jen Barlow sy’n wreiddiol o Dde Affrica, ond bellach yn byw yn Nhregarth. Mae’n rhedeg y busnes gyda’i gwraig Amy a’i phlentyn. Ystyr Ja Vir Kos yw “yes for food” yn iaith De Affrica. Yn ôl Jen Barlow, mae gallu ‘bwydo pobol’ yn fraint, ac mae cael dod â “heulwen a lliw bwyd De Affrica i Gymru yn bleser pur”.

Dyma rai o’r bwydydd y gallwn ddisgwyl eu gweld yn yr ŵyl fwyd eleni:

Vetkoek, sef dwmplenni wedi’u ffrio. Ond o roi cyrri, pys a llysiau tu mewn iddyn nhw, daw’n bryd o fwyd y cyfeirir ato fel ‘Bunny chow’ neu ‘Bunny’. Ond peidiwch â phoeni, dydych chi ddim yn bwyta cwningen! Mae’r bwyd yn tarddu o gymuned Indiaidd fawr Durban, ar arfordir dwyreiniol De Affrica.

Selsig boerewors – Mae’r selsig hwn yn rhan bwysig o ddiwylliant bwyd De Affrica, Zimbabwe, Botswana a Namibia, ac mae’n boblogaidd ar draws De Affrica. Daw’r enw o’r geiriau Afrikaans boer (“ffermwr”) a wors (“selsig”). Mae’r selsig yn cynnwys 55% o gig eidion safon uchel, 44% bola mochyn (‘pork belly’), a 5% o gymysgedd perlysiau a sbeisys cyfrinachol Jen Barlow. Conwy Valley Meats sy’n darparu’r cig ar gyfer y selsig, ac mae hi’n cydweithio gyda’i chigydd yn Llanrwst i greu’r selsig di-glwten arbennig.

Cyri porc – Mae Jen Barlow yn defnyddio porc achos mai dyma’r opsiwn sydd debycaf i gyrri gafr traddodiadol De Affrica. Mae’r cyrri hefyd yn cael ei adnabod fel cyrri Durban. Yn Durban, caiff olew ei ddefnyddio, gyda llawer o tsili, cwmin a choriander ac mae’r lliw cyfoethog yn dod o gynnwys llawer o domatos. Ond am fod sbeisys y cyrri gwreiddiol mor boeth, a chyn lleied o bobol yn medru goddef y sbeis, mae Jen Barlow yn coginio’r cyrri ac yna’n cynnig ei saws tsili cartref a chyfrinachol ar y bwrdd (am ddim) ar gyfer y rhai sydd eisiau’r gwres. Eto, pryd di-glwten yw hwn.

Bar Salad am ddim – gan fod salad yn rywbeth mae trigolion De Affrica’n ei fwyta gyda bron i bopeth, mae Ja Vir Kos yn cynnig y bar salad am ddim gyda phob pryd bwyd sy’n cael ei werthu.

Chakalaka (vegan) – bwyd traddodiadol o Dde Affrica. Mae wedi’i wneud o ffa, llysiau ffres, nionod, pupur a thomatos. Mae yna dros 21 o lysiau a sbeisys yn mynd i mewn i’r pryd hwn gan Jen Barlow, sy’n disgrifio’r cynnyrch fel ‘heulwen ar blât’. Caiff ei gyflwyno gyda reis neu Pap (ground maize).

Biltong – Cig sych wedi’i halltu, sy’n tarddu o wledydd de Affrica (De Affrica, Zimbabwe, Malawi, Namibia, Botswana a Zambia) yw Biltong. Mae’n ymdebygu i ‘Beef Jerky’. ‘Salmon cut‘ yw toriad yr eidion, a does dim siwgr na chadwolion wedi’u hychwanegu iddo.


Llymaid Llon – cwmni diod lleol yn lawnsio Jin newydd sbon

Afallon Môn

Mae wyneb cyfarwydd ym myd actio a’r celfyddydau, Emyr Gibson, wedi gwireddu breuddwyd gyda’i ffrindiau sy’n gyd-gyfarwyddwyr cwmni diod Afallon Môn (Owen Arwyn ac Owain Gethin), ar ôl creu jin sydd wedi cyrraedd y lefel ragoriaeth uchaf. Cafodd y jin ei greu dan arweiniad y meistr-ddistyllwr adnabyddus, Gerard Evans o Gaerliwelydd (distyllwr aeddfed gyda thros 25 mlynedd o brofiad).

Ond, yn ogystal â gwerthu’r jin arobryn Afallon Môn, eleni mi fydd y cwmni yn lansio ac yn gwerthu jin newydd sbon yn yr ŵyl, sef jin llus a blodau’r ysgaw (Blueberry & Elderflower Gin). Felly, i chi ‘jin-garwyr’ ein cenedl, bydd cyfle unigryw i chi flasu’r ddiod newydd cyn ei bod ar gael yn y siopau. Caiff ei disgrifio gan y gwneuthurwyr fel “rhodd y Fam o dir Derwyddon”.

“Ers talwm, diod ar gyfer y merched oedd Jin, ond rŵan, ti’n gweld dynion efo muscles a tatŵs mawr efo’i gwydrau jin,” medd Emyr Gibson.

Mae distyllfa cwmni Afallon Môn wedi’i lleoli mewn ysgubor Gymreig o’r ddeunawfed ganrif, sydd wedi’i hadnewyddu ar Fferm Bedo.


“Moesegol, cynaliadwy a thymhorol” – cwmni o Lŷn i werthu cig carw

Cig Carw Llyn Venison

Beth sy’n bwysig i gwmni cig ifanc Cig Carw Llyn Venison yw eu bod yn gweithredu mewn ffordd foesegol, gynaliadwy a thymhorol. Pam? I helpu amddiffyn yr amgylchedd ac i fod yn garedicach i’r anifeiliaid.

Mae Tim Tyne wedi bod yn ffermio ers 25 mlynedd – ond dim ond ers pedair blynedd mae Tim a Dot Tyne, gyda’u merch, wedi dechrau cadw a gwerthu cig carw drwy Cig Carw Llyn Venison. Trwy greu ‘cynefin naturiol’ ar gyfer eu ceirw ar y fferm deuluol, maen nhw’n medru “chwarae rhan fechan yn edrych ar ôl yr amgylchedd”, tra hefyd yn cynhyrchu cig ar gyfer pobol leol. Dydi’r anifeiliaid ddim yn cael eu trin na’u meddyginiaethu. Maen nhw’n byw, i bob pwrpas – ac eithrio’r ffaith fod gan y fferm ffiniau – yn wyllt.

Trwy gadw, lladd a pharatoi’r cig carw ar y safle, maen nhw hefyd yn sicrhau ôl troed carbon llawer is na chynhyrchiant da byw confensiynol. Mae Cig Carw Llyn Venison yn gwerthu cig carw gwyllt hefyd yn achlysurol, ond dim ond pan fo’n gynaliadwy i wneud hynny. Daw’r ceirw gwyllt bryd hynny o ardaloedd lle mae rhywfaint o ddifa cynaliadwy yn medru sicrhau ein bod yn amddiffyn ecosystemau bregus fyddai fel arall dan fygythiad o orbori gan y ceirw.

Gallwn ddisgwyl gweld selsig carw, byrgyrs, sdêcs a charw wedi’i giwbio ar gyfer casseroles neu farbeciw yn yr Ŵyl Fwyd eleni!