Fe fydd tref Caernarfon dan ei sang fory (dydd Sadwrn, Mai 13), wrth i’r Ŵyl Fwyd hynod boblogaidd roi gwledd i filoedd o bobol unwaith eto.
Maen nhw’n amcangyfrif bod tua 50,000 wedi dod i’r ŵyl y llynedd, wedi i’r trefnwyr aildanio’r injan ar ôl dwy flynedd o hoe oherwydd y pandemig.
Eleni eto, fe fydd llu o stondinau bwyd, celf a chrefft, a bariau o gwmpas ac o fewn muriau’r castell.
Ar bedwar llwyfan, bydd artistiaid fel Band Press Llareggub, Ciwb, Meinir Gwilym, Morgan Elwy a nifer o gorau lleol yn perfformio.
I’r plant, mae corlan anifeiliaid, cestyll bownsio, a gweithgareddau o dan ofal CARN a’r Mudiad Meithrin. Bydd neb llai na Mistar Urdd yn y dref rhwng 11am-3pm.
Mae’r trefnwyr yn galw ar bobol i ddod â phres parod gan fod ciwiau mawr i’r twll yn y wal, ac weithiau mae gormod o bwysau ar beiriannau talu â cherdyn.
Eleni, fe fydd modd prynu gwydr aml-ddefnydd am £1.50 o’r bariau i’w ailddefnyddio.
Er bod yr ŵyl am ddim, maen nhw’n gofyn i bobol gyfrannu drwy roi arian yn y bwcedi fydd o gwmpas y lle.
Mae’r ŵyl yn costio oddeutu £43,000 i’w lwyfannu, a dim ond £4,700 o gyfraniadau gafodd yr ŵyl y llynedd.
Eu neges yw: pe bai pawb sy’n dod i fwynhau yn talu £1 yr un, byddai’n talu am yr ŵyl.
Cofiwch y bydd lonydd canol y dref ynghau rhwng 7 o’r gloch y bore a 6 o’r gloch yr hwyr.
Y paratoadau