Mae Gŵyl Fwyd Caernarfon yn brin o wirfoddolwyr ar y funud, ac yn awyddus i ddod o hyd i fwy.

Bydd yr ŵyl yn cael ei chynnal o amgylch dref ar Fai 13, a llynedd fe wnaeth y dref lwyddo i ddenu rhwng tua 30,000 a 40,000.

Yn ogystal â stondinau bwyd a diod, mae’r ŵyl yn cynnwys arddangosiadau coginio byw ac adloniant, a gwirfoddolwyr sy’n gyfrifol am redeg y digwyddiad.

Cafodd yr ŵyl ei chynnal am y tro cyntaf yn 2016, ac mae hi wedi tyfu dros y blynyddoedd a bellach mae hi’n un o’r gwyliau bwyd mwyaf yng Nghymru.

“Ar y funud bysa ni’n gallu gwneud efo tua deg gwirfoddolwr ychwanegol,” meddai Siôn Evans, sydd ar is-bwyllgor Gwirfoddolwyr Gwŷl Fwyd Caernarfon wrth golwg360.

“Dydw i ddim yn gwybod y ffigwr yn union o faint o wirfoddolwyr sydd gennym ond mae’n tua 60.

“Mae’r Ŵyl Fwyd yn un o’r digwyddiadau, os nad y digwyddiad, mwyaf i ddigwydd yn dre yn y flwyddyn.

“Mae’r ŵyl am ddim, dw i’n siŵr mewn llefydd eraill basach yn gorfod talu i fynd mewn i rywbeth fel yma.

“Mae’n ffordd i bobol gyfrannu at y gymuned, mewn ffordd, drwy roi cwpl o oriau o’u diwrnod i helpu allan.”

Y menywod sy’n trefnu Gŵyl Fwyd Caernarfon

Mae Gŵyl Fwyd Caernarfon yn ymfalchïo yn y ffaith eu bod yn cael eu harwain gan fenywod y dref