Mae gwinllan yn Nyffryn Nantlle yn awyddus i ddefnyddio gwydr wedi’i greu o wastraff llechi i botelu eu cynnyrch.
Fel rhan o’r gwaith, mae Gwinllan a Pherllan Pant Du ym Mhenygroes wedi bod yn cydweithio ag ymchwilwyr o Brifysgol Aberystwyth i weld pa mor addas ydy’r gwydr i gadw bwyd yn ffres.
Mae’r winllan yn cynhyrchu gwinoedd coch, gwyn a rhosliw o winwydd sy’n tyfu yn Nyffryn Nantlle, ynghyd â seidr a sudd afal o berllannau lleol.
Fel rhan o’i chynlluniau i ddatblygu cynnyrch finegr seidr afalau newydd, trodd Pant Du at ymchwilwyr y Grŵp Ymchwil Bwyd, Diet ac Iechyd ym Mhrifysgol Aberystwyth i brofi priodweddau cadw ffresni’r gwydr llechi newydd arfaethedig.
‘Gwych o beth’
Yn draddodiadol defnyddiwyd gwydr tywyll i ddiogelu gwin coch ac ystod eang o gynnyrch meddygol rhag effeithiau golau.
Profodd y tîm yn Aberystwyth y gwydr newydd am ei allu i rwystro golau gweladwy ynghyd â phelydrau isgoch ac uwchfioled, a chymharu ei berfformiad â gwydr clir ac ambr.
Profwyd y gwydr gyda pherlysiau a ffrwythau fel cennin syfi a thomatos, a hyd yn hyn mae’r canlyniad yn dangos bod y gwydr llechi yn perfformio’n well na gwydr clir ac ambr.
Y cam nesaf fydd ei brofi â hylif.
Dywedodd Richard Wyn Huws o Bant Du: “Mae hi wedi bod yn bleser cydweithio gyda Phrifysgol Aberystwyth ar y prosiect arloesol hwn a manteisio ar yr arbenigedd a’r dechnoleg sydd yno i brofi fod y gwydr newydd hwn yn gweithio.
“Mae hefyd yn wych o beth i adael i’r byd a’r betws wybod am y gwyrthiau y gellir eu gwneud gyda gwastraff llechi a rhoi Dyffryn Nantlle a threftadaeth llechi gogledd Cymru ar y map.”
‘Deunydd lleol i gadw bwyd’
Ar hyn o bryd, dim ond 5% o lechi Cymru sy’n cael ei ystyried yn fasnachol werthfawr, ac mae yna ddigon o wastraff llechi ar gael a’r winllan yn awyddus i’w ddefnyddio i ymestyn oes silff eu cynnyrch.
Dywedodd Dr Amanda Lloyd o Brifysgol Aberystwyth: “Bob blwyddyn mae canran enfawr o fwyd yn cael ei daflu gyda hyd at 70% ohono’n cael ei achosi gan aelwydydd nad ydyn nhw’n gallu bwyta’r bwyd maen nhw’n ei brynu cyn iddo fynd yn anfwytadwy.
“Dyma pam mae gennym ddiddordeb mewn profi a datblygu gwydr gyda Phant Du.
“Yn ogystal mae wedi’i wneud o wastraff y diwydiant llechi, sy’n ychwanegu’r posibilrwydd o ddefnyddio deunydd lleol ar gyfer cadw bwyd.
“Ac mae hyn oll wedi ei wneud yn bosibl gan gyllid gan Lywodraeth Cymru o’r gronfa Datgarboneiddio ac Adfer Covid, ochr yn ochr â SMART Recovery, prosiect arall sy’n cael ei ariannu gan raglen Adfer wedi Covid Llywodraeth Cymru.”