Mae yna adegau mewn bywyd pan dyw’r holl saws caws neu domato yn y byd ddim yn llwyddo i daro’r blasbwynt arbennig hwnnw sy’n ein cymell i ddweud, “Ew, roedd hwnna’n flasus, dwi eisiau mwy!” Bydd pawb wedi cyfarch y Pasg mewn ffyrdd amrywiol; i rai, mi fydd yn esgus i greu gwledd o ‘ginio dydd Sul’ rhost arbennig gan ddefnyddio cig oen, efallai, o’r cigydd lleol, ond i eraill efallai nad yw gwledd o’r fath yn opsiwn fforddiadwy. Am y tro cyntaf eleni, mwynheuais bryd ychydig yn wahanol. Pryd o fwyd syml, maethlon ond eto’n flasus a di-ffwdan.

Anghofiwch am y saws caws, y carbonara a’r saws tomato, felly, a rhowch groeso cynnes i’r basil. Mae dull coginio’r pryd hwn mor syml, mi fetia’i y gall unrhyw un roi cynnig arni. Yr elfen ddrytaf yn y fwydlen hon oedd y cnau pinwydd am £3.75 am baced 100g. Pam mor ddrud, meddech chi? Wel, mae cnau pinwydd yn un o’r cnau drytaf ar y farchnad oherwydd yr amser sydd ei angen i dyfu’r cnau a’r ymdrech i gynaeafu’r hadau o grombil y gneuen. Mae cnau pinwydd yn gyfoethog mewn magnesiwm, haearn, gwrthocsidyddion, sinc a phrotein, sy’n gallu helpu gyda rheoli clefyd siwgr, iechyd y galon, ac iechyd yr ymennydd. Mae’r cnau hefyd yn ychwanegu haen o flas daearol i’r bwyd. Rwy’n hoffi’r cyferbyniad rhwng brown golau’r pastai penne grawn llawn a gwyrddni naturiol perlysieuyn basil. Mae hefyd modd ail wresogi’r saws yn y popdy-ping heb iddo hollti! Fe benderfynais i ddefnyddio pastai grawn llawn ar gyfer y rysáit hwn gan ei fod yn iachach, ond fe allwch ddefnyddio pastai cyffredin neu dri-lliw, yn ddibynnol ar eich dymuniadau.


BETH FYDDA I EI ANGEN?

2 fag o Basta Penne Grawn Llawn

1 paced o Lardons wedi’i mygu

1 paced o gaws Parmesan

1 paced o Fasil

1 paced o tsili

1 paced 100g o gnau pinwydd

1 peint o hufen sengl ysgafn

250ml o Olew Olewydd

Garlleg


PARATOI A CHOGINIO

Cyfunwch basil a garlleg yn y prosesydd bwyd. Tywalltwch olew i mewn yn araf tra bo’r prosesydd bwyd yn rhedeg. Parhewch i wneud hyn am ryw 40 eiliad a than fod y cynhwysion wedi emwlseiddio. Ychwanegwch hanner cwpan o parmesan, y cnau pinwydd (2oz) pupur a halen a’i gymysgu am ryw funud.

Dewch â’r hufen i’w fudferwi mewn sosban dros wres isel. Tywalltwch hanner yr hufen poeth i mewn i’r prosesydd bwyd a’i weithio am 20 eiliad.

Trosglwyddwch y gymysgedd basil hufennog i mewn i’r sosban a chymysgwch yr hufen nes ei fod wedi meddalu – yna mudferwch y cyfan tan ei fod wedi tewhau, dylai hyn gymryd pum munud.

Ffriwch y lardons wedi’u mygu, ac ychwanegu garlleg ychwanegol nes eu bod wedi eu coginio.

Berwch sosban o basta yn ddibynnol ar faint y bwrdd sy’n bwyta. Tywalltwch weddill y dŵr o’r sosban funud mae’r pasta wedi ei goginio. Rhowch lwyaid fawr dda ym mhob powlen gan ychwanegu’r saws hufen a lardons fel y mynnwch. Cofiwch ychwanegu pupur a halen a mwynhewch!

Digon i fwydo chwe pherson am £1.54 y pen.

 

Bara lawr “wedi’i wreiddio yn hanes Cymru” ac yn “ffynhonnell gyfoethog o faeth”

Lowri Larsen

Cafodd Diwrnod Cenedlaethol Bara Lawr ei ddathlu yr wythnos hon (dydd Gwener, Ebrill 14)