A hithau’n Ddiwrnod Cenedlaethol Bara Lawr yng Nghymru ddydd Gwener (Ebrill 14), mae arbenigwr bwyd yn dweud ei fod yn rhan bwysig o ddathlu Cymreictod a’n bodolaeth fel cenedl.

Mae bara lawr yn gynnyrch bwyd sydd wedi’i wneud o lawr, gwymon bwytadwy (alga arfordirol) sy’n cael ei fwyta yn bennaf yng Nghymru, ac yn rhan o fwyd traddodiadol lleol.

Yn ôl yr arbenigwr bwyd Medi Wilkinson o Gaernarfon, mae bara lawr a Diwrnod Cenedlaethol Bara Lawr yn bwysig am sawl rheswm, ac mae sawl ffordd o’i fwyta.

“Mae bara lawr wedi ei wreiddio yn hanes Cymru, ac yn ffynhonnell gyfoethog o faeth,” meddai wrth golwg360.

“Ar Ddiwrnod Cenedlaethol Bara Lawr, mae’n gyfle i gofio mor bwysig oedd y bwyd hwn fel rhan hanfodol o ddiet gweithwyr glofaol cymoedd de Cymru.

“Daeth yn frecwast poblogaidd a chenedlaethol.

“Os nad ydych yn hoffi bara lawr i frecwast, beth am wneud saws allan ohono i’w gael gyda chig oen, cranc neu faelgi?

“Os nad ydy hynny’n tynnu dŵr i’r dannedd, yna gallwch wneud cawl lafwr.”

Llinach cwmni bara lawr teuluol

Mae Celtic Crab Products yn gwmni sydd wedi’i leoli yng Nghastell Emlyn, ac mae’n cael ei redeg gan Glyn Phillips, gyda’i gariad Diana White yn gwerthu’r cynnyrch.

A’i deulu’n gysylltiedig â’r môr ers cenedlaethau, gwnaeth Glyn Phillips bysgota yn fachgen bach, fel y gwnaeth ei dad, ei daid a’i hen daid cyn hynny.

Mae ei fab hynaf bellach yn rhedeg y llong ‘Celtic’, ac mae ei feibion yn bysgotwyr brwd.

Yn rhan o’r traddodiad hwn, mae Celtic Crab Products yn fusnes sy’n gwerthu pysgod a chynnyrch mor eraill hefyd, ac mae wedi bod yn mynd ers 14 neu bymtheg mlynedd.

“Mae bara lawr yn uchel mewn mwynau a haearn, ac mae’n dda iawn i chi,” meddai Diana White wrth golwg360.

“Rydym yn gwerthu llawer ohono, yn bennaf oherwydd ei fanteision iechyd.

“Mae’r rhestr mor hir y byddai’n rhaid i bobol edrych arni ar y rhyngrwyd i weld y maeth i gyd.

“Pobol o fewn gwledydd y Deyrnas Unedig yn bennaf sy’n ei brynu, Cymry yn bennaf, oherwydd maen nhw’n ei adnabod ac yn ei hoffi.

“Os yw Cymry wedi symud allan o Gymru ac i Loegr, rydym yn cyflenwi llawer ohono.

“Rydym yn ei anfon i ffwrdd, ond nid dramor, dim ond o fewn gwledydd y Deyrnas Unedig. Daw’r cyfan o arfordir Cymru.

“Dydyn ni ddim yn ei brosesu ein hunain, rydyn ni’n ei brynu gan bobol sy’n ei brosesu.

“Rydyn ni’n ei werthu ymlaen, ond dim ond i’r cyhoedd rydym yn ei werthu.”

Cegin Medi: Pasta basil a chnau pinwydd, gyda garlleg a tsili

Medi Wilkinson

“Pryd o fwyd syml, maethlon ond eto’n flasus a di-ffwdan”