Fe fydd presenoldeb bwyd môr mewn digwyddiad bwyd byd-eang yng Nghatalwnia yn dyblu eleni.
Bydd y Seafood Exo Global yn cael ei chynnal yn Barcelona rhwng Ebrill 25-27, gyda mwy nag 80 o wledydd yn arddangos eu bwydydd.
Y llynedd, fe wnaeth dros 1,550 o gwmnïau gystadlu am sylw gan bron i 27,000 o weithwyr proffesiynol yn y maes – o fwyd môr i offer prosesu.
Mae Barcelona yn un o brif ganolfannau bwyd môr Ewrop, ac mae’r arddangosfa’n dychwelyd yno am yr ail flwyddyn yn olynol.
Mae’r digwyddiad eleni 23% yn fwy na’r digwyddiad y llynedd, gan adlewyrchu’r twf ym mhoblogrwydd digwyddiadau bwyd ledled Ewrop.
‘Arddangos cynnyrch gwych’
“Mae Seafood Expo Global yn ddigwyddiad pwysig lle gall busnesau bwyd môr Cymru arddangos eu cynnyrch gwych,” meddai Lesley Griffiths, Ysgrifennydd Materion Gwledig Cymru.
“Bydd cael presenoldeb yn Barcelona yn dod â’r diwydiant Cymreig i sylw cynulleidfa ryngwladol a chwsmeriaid posib.”
Bydd stondin dan nawdd Llywodraeth Cymru’n cael ei chydlynu gan Glwstwr Bwyd Môr Bwyd a Diod Cymru, a bydd pedwar cwmni’n teithio i Barcelona ar gyfer y digwyddiad.
Dyma’r tro cyntaf i Ross Shellfish a South Quay Shellfish ymddangos yn y digwyddiad, gyda’r Lobster Pot ac Ocean Bay Seafoods yn ymuno â nhw, gan ymddangos am yr eildro.
Stondin Cymru
Bydd modd cael blas ar yr hyn sydd gan Gymru i’w gynnig wrth ymweld â’r stondin, diolch i’r cogydd Harri Alun o Westy Carden Park.
Bydd modd clywed rhagor am Glwstwr Bwyd Môr Cymru a’u gwaith, a hwnnw’n brosiect sydd wedi’i hwyluso gan Cywain sy’n annog cydweithio rhwng cwmnïau ac unigolion yn y diwydiant.
Un sy’n edrych ymlaen at y digwyddiad yw Jason Thomas o South Quay Shellfish.
“Aethon ni i’r Seafood Expo Global ychydig flynyddoedd yn ôl pan gafodd ei chynnal ym Mrwsel, felly bydd mynd i Barcelona yn brofiad newydd i ni.
“Bydd yn gyfle gwych i gwrdd â chwsmeriaid newydd a phresennol, a chlywed am y datblygiadau diweddaraf yn y byd bwyd môr.”
Yn ôl Nia Griffith, Rheolwr Clwstwr Bwyd Môr Gogledd Cymru, roedd y Seafood Expo Global “yn llwyddiant gwych – yn enwedig gan ein bod ni’n dal i ddod allan o’r pandemig Covid-19”.
“Rydym wrth ein boddau o gael bod yn ôl yn Barcelona am y digwyddiad eleni ac o gael cynyddu presenoldeb Cymru a dyblu nifer y busnesau bwyd môr Cymreig sy’n ymddangos ar ein stondin.”