Mae un o’r gwirfoddolwyr ar bwyllgor Gŵyl Fwyd Caernarfon yn dweud bod bwyd yn “rhan bwysig” o gysylltu gwledydd y byd â’i gilydd, wrth iddyn nhw baratoi i gynnal cystadleuaeth gwneud cyrri heno (nos Wener, Mawrth 31).

Un uchafbwynt blynyddol yng Nghaernarfon yw’r Ŵyl Fwyd, ac mae ymdrechion i godi arian ar ei chyfer trwy’r flwyddyn.

Bydd y gystadleuaeth gwneud cyrri’n gyfle i flasu bwyd o ddiwylliant gwahanol, ac yn ddigwyddiad hynod ddiwylliedig.

Mae’r gystadleuaeth yn cael ei chynnal yn Feed My Lambs yng Nghaernarfon, ac mae’r arian i gyd yn mynd at yr Ŵyl Fwyd gyda’r tocynnau i gyd wedi’u gwerthu.

Bydd wyth person yn cystadlu, felly bydd wyth cyrri i’w blasu, a bydd yr enillydd yn derbyn £50.

“Rwy’n meddwl beth mae’r blynyddoedd diwethaf wedi dangos i ni’n bendant ydy ei fod yn bwysig bod gwledydd y byd i gyd yn cysylltu efo’i gilydd, rhannu diwylliannau ac ieithoedd, ac mae bwyd yn rhan bwysig o hynna,” medd Osian Owen wrth golwg360.

Dydy’r gystadleuaeth heb ei chynnal ers 2019 oherwydd y cyfnod clo, ac mae’r Ŵyl Fwyd bellach yn chwilio am ragor o wirfoddolwyr hefyd.

Codi arian

Gyda’r Ŵyl Fwyd yn rhan bwysig o fywyd y Cofis a phobol o’r tu allan, mae’n bwysig iddyn nhw gynnal y math hwn o ddigwyddiad i godi arian.

“Yr Ŵyl Fwyd yw uchafbwynt y flwyddyn yn amlwg, ond mae’n costio llawer iawn i’w gynnal,” meddai Osian Owen.

“Rydym yn gorfod codi arian trwy’r flwyddyn.

“Mae gennym o leiaf dri digwyddiad bob blwyddyn er mwyn codi arian, ac mae hwn yn un o’r rheiny.

“Heb yr arian rydym yn ei wneud yn y math yma o beth, fysa ni’n methu cynnal yr ŵyl ei hun fis Mai, felly mae o’n ofnadwy o bwysig.”

Rhannu diwylliannau ac ieithoedd

Yn ôl Osian Owen, mae bod yn drawsddiwyllianol yn bwysig ac yn bleser.

“I fi yn bersonol, un o uchafbwyntiau mynd i deithio yw blasu bwydydd o wledydd gwahanol,” meddai.

“Mae hwnna’n ran bwysig o genhadaeth yr Ŵyl Fwyd, mewn gwirionedd.

“Er ei bod hi’n ŵyl Gymreig iawn, mae’n ŵyl Gymreig mewn cyd-destun rhyngwladol.”

Roedd yn rhaid i’r gystadleuaeth sy’n rhedeg ers 2016 ddod i ben oherwydd y cyfnod clo.

A hithau bellach yn ôl ar ei thraed, mae’r trefnwyr yn gobeithio y bydd yn cael ei chynnal am flynyddoedd i ddod.

“Hwn di’r tro cyntaf i mi fod yng Nghaernarfon mae’r gystadleuaeth yn cael ei chynnal,” meddai Osian Owen.

“Y gobaith ydy y byddan ni’n cael noson lwyddiannus ar ôl Covid a byddan ni’n gallu gwneud o eto bob blwyddyn.”

Bydd noson blasu jin hefyd yn cael ei chynnal yn y Stesion yng Nghaernarfon fis nesaf, ar Ebrill 31 a bydd y tocynnau ar werth yn fuan.