Medi Wilkinson

Mae yna giw i’r ystafell ymolchi, mae fy ngwallt i’n wlyb ar ôl cerdded y ci, ac mae’r tost wedi llosgi yn y gegin. Does yna jest ddim digon o amser i gyflawni’r holl dasgau boreol. Pwy all uniaethu?

Yn hytrach na grawnfwyd, ffrwyth neu dost, ydych chi wedi ystyried frittata llysieuol i ddechrau’r diwrnod? Llond bol o brotein a llysiau blasus sy’n medru cael ei baratoi a’i goginio mewn ychydig funudau? Dyma frecwast maethlon y gall pawb ei rannu o amgylch bwrdd y gegin yn y bore – brecwast fydd yn siŵr o gadw’r bwystfil llwgfa yn ei le tan toc cyn cinio.

 


Beth fydda i ei angen?

12 o wyau buarth (free range)

Hanner cwpan o lefrith llawn

1 taten felys

1/2 bell pepper coch

Bresych deiliog (kale)

Sbigoglys (spinach)

Spring onion

Garlleg

Coriander

Paprika

Pupur a halen


Paratoi a choginio

Yn gyntaf, pliciwch y daten felys ac yna ei thorri’n giwbiau mân.

Coginiwch y daten mewn padell skillet gydag olew nes ei bod yn feddal, wedyn rhowch y darnau tatws i un ochr.

Craciwch ddeuddeg ŵy a thywallt hanner cwpan o lefrith llawn i bowlen gymysgu fawr a’u troi nes bod y cyfan yn gymysg.

Ychwanegwch binsiad o bupur a halen

Ewch ati nawr i dorri’r bell pepper, bresych deiliog, sbigoglys a’r spring onion yn fân.

Gosodwch y cynhwysion hyn yn y badell skillet gydag olew i’w coginio am ychydig funudau (dair neu bedair), gan gofio eu troi yn gyson nes eu bod yn feddal.

Ychwanegwch y garlleg i’r badell drwy wasgu segmentau drwy declyn torri garlleg.

Yna, ychwanegwch binsiad o paprika.

Trowch y gwres i lawr i dymheredd cymhedrol.

Ychwanegwch y ciwbiau tatws melys i’r gymysgedd.

Nesaf, tywalltwch gynnwys y bowlen gymysgu fawr (wyau) ar ben y cynhwysion i gyd, a’u coginio am tua thair munud nes bod ymylon yr ŵy wedi setio/dal i ymyl y badell.

Ychwanegwch ragor o paprika a phupur.

Gosodwch y badell ar silff ganol eich popty, a’i goginio am ryw 20 munud, neu hyd nes bod y canol wedi setio.

Yn olaf, addurnwch y frittata gyda spring onion a choriander.

Mi fydd yn barod i’w fwynhau.

Mae’r cyfan yn bwydo teulu o bump am £5.86, felly £1.17 y pen!