Tatws. Be sy’n dod i’r meddwl? Ydych chi’n teimlo’n gyffrous neu ydych chi’n meddwl am fwyd cartrefol ond llawn startsh llwydfelyn? Gydag oerfel y mis du wedi treiddio i fêr ein hesgyrn, be’ well na phlatiad o datws dull Buffalo gyda saws glas cartref i’n cynhesu?
Mae’r pryd hwn yn ddelfrydol ar gyfer nosweithiau oer mis Chwefror. Fe all y teulu cyfan rannu a mwynhau blas o ben arall y byd yn America bell. Er mai rysáit ar gyfer y tatws sydd yma, byddai powlen o adenydd cyw iâr poeth yn ychwanegiad perffaith ar gyfer pryd mwy swmpus.
Cynhwysion fydda i eu hangen?
Tatws newydd (1kg)
3 llwy de o halen
Chwarter cwpan o olew olewydd
Hanner cwpan o Franks Red Hot Sauce
Rysáit caws glas (rysáit isod)
2 lwy fwrdd o syfi (chives)
1 tsili
1 nionyn
Saint Agur i’w falu’n fân (paced)
Adenydd cyw iâr (1kg)
Saws Caws Glas
Chwarter cwpan o hufen sur
Chwarter cwpan o ‘mayonaise’
Chwarter cwpan o gaws glas wedi ei falu
2 lwy fwrdd o lefrith
Cenhinen Syfi (chives)
2 lwy fwrdd o fineg gwin gwyn
Hanner llwy de o bowdr garlleg
Pupur a halen
Coginio
Yn gyntaf, bydd angen gosod gwres y popty ar oddeutu 450 gradd.
Rhowch y tatws newydd mewn sosban fawr gyda dŵr oer a phinsiad o halen. Dewch â’r dŵr i bwynt berwi dros wres uchel cyn troi’r gwres yn isel a’u gadael i fudferwi am 30-35 munud. Dylech allu rhoi blaen eich cyllell i mewn i’r tatws pan fyddan nhw’n barod. Tynnwch y tatws oddi ar y gwres a thywallt y dŵr. Ysgwydwch y tatws yn yr hidlydd (colander) i baratoi crwyn y tatws ar gyfer bod yn crisp.
Gan ddefnyddio lliain sychu llestri glân, malwch y tatws sydd wedi oeri i hanner modfedd o drwch.
Gosodwch y tatws ar bapur pobi a thywallt olew olewydd ac un llwy de o halen am eu pen. Rhostiwch y tatws nes eu bod yn crisp a brown o amgylch yr ymylon. Tua 40 munud, a’u troi hanner ffordd drwodd.
Yn y cyfamser, gwnewch y saws caws glas. Cymysgwch y cynhwysion i gyd mewn powlen gyda phupur a halen fel yr hoffech.
I orffen, tywalltwch Franks Red Hot Sauce dros y tatws ynghyd a’r saws caws glas gyda syfi (chives) a briwsion caws glas wedi’i falu, nionyn a tsili.
Does dim ar ôl i’w wneud ond mwynhau!
Y gost
Tatws newydd 1kg – £1.00
3 llwy de o halen
Chwarter cwpan o olew olewydd £0.55
Hanner cwpan o Franks Red Hot Sauce £0.63c
Rysáit caws glas (rysáit isod)
2 lwy fwrdd o ‘chives’ £0.50
1 tsili £0.50
1 Nionyn £0.12
Saint Agur i’w falu’n fân (paced) £2.19
Adenydd cyw iâr (1kg) £2.60
Saws Caws Glas
Chwarter cwpan o hufen sur £0.75
Chwarter cwpan o mayonnaise £0.30
Chwarter cwpan o gaws glas wedi’i falu £0.54
2 lwy fwrdd o lefrith £0.10
Cenhinen Syfi (chive) £0.10
2 lwy fwrdd o fineg gwin gwyn £0.20
Hanner llwy de o bowdr garlleg £0.15
Pupur a halen