Mae cwmni cymunedol yng Ngwynedd wedi derbyn grant o £174,000 i dyfu coedlan yng nghanol y pentref.

Bwriad Antur Aelhaearn yw plannu 1,000 o goed cynhenid a 200 o goed perllan ar ddarn o dir ger eu canolfan yn Llanaelhaearn ger Pwllheli.

Fe fydd y goedlan yn cael ei henwi ar ôl yr ymgyrchydd Dr Carl Clowes, a fu farw yn 77 oed fis Rhagfyr y llynedd.

Roedd yn byw yn yr ardal ac yn feddyg lleol am flynyddoedd, a bu’n rhan flaenllaw o sefydlu Ymddiriedolaeth Nant Gwrtheyrn yn ogystal ag Antur Aelhaearn ei hun.

Wedi i’r coed gael eu plannu dros y flwyddyn nesaf, fe fydd y goedlan yn cael ei defnyddio fel adnodd i’r gymuned leol ac i dwristiaid, gan gynnig cyfleoedd gwaith a chyfleoedd addysgiadol.

Yn arwydd o dreftadaeth Geltaidd yr ardal, gyda bryngaer Tre’r Ceiri yn edrych dros y pentref, fe fydd coed brodorol fel y dderwen, criafolen a helygen ymhlith y rhai sy’n cael eu plannu.

‘Etifeddiaeth i genedlaethau’r dyfodol’

Fe dderbyniodd Antur Aelhaearn y grant gan gynllun Coetiroedd Cymunedol, sy’n cael ei gyd-redeg gan Lywodraeth Cymru a’r Loteri Genedlaethol.

“Rydym yn hynod falch o dderbyn y gefnogaeth yma gan Lywodraeth Cymru a Chronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol,” meddai Llŷr ap Rhisiart, cadeirydd Antur Aelhaearn.

“Edrychwn ymlaen at ddechrau gwireddu’r freuddwyd o weld coedlan yn y gymuned.

“Gwyddom am fuddion mawr cysylltu â byd natur a’r amgylchedd naturiol a byddwn yn gallu gwneud hynny maes o law ar stepen y drws.

“Bydd creu’r goedlan yn waddol ac etifeddiaeth i genedlaethau’r dyfodol.

“Bydd hefyd yn gyfraniad pentref Llanaelhaearn i daclo effeithiau niweidiol newid hinsawdd ac i wireddu gweledigaeth Llywodraeth Cymru i weld mwy o goedlannau a choedwigoedd yn ôl yng Nghymru.”