Mae’r penderfyniad i beidio â rhoi caniatâd cynllunio i 110 o dai yn Ninbych am “gostio’n ddrud” i’r cyngor sir, yn ôl y datblygwyr.
Roedd Castle Green Homes wedi bwriadu adeiladu’r tai ar dir gyferbyn ag Ysgol Pendref ar Ffordd Gwaenynog yng ngorllewin y dref.
Ond fe wnaeth y pwyllgor cynllunio wrthod y cais mewn cyfarfod yr wythnos hon, er iddyn nhw werthu’r tir i’r datblygwyr ymlaen llaw.
Doedd dim un gwrthwynebiad gan aelodau’r pwyllgor i’r cynnig i wrthod y cais, gyda rhesymau’n cynnwys colli tir amaeth, gor-ddatblygu, diogelwch ffyrdd, a newid hinsawdd.
Cyn y penderfyniad ddydd Mercher (9 Mawrth), roedd nifer wedi protestio yn erbyn y cynlluniau a galw ar weithwyr Castle Green Homes i adael y tir.
‘Siomedig ein bod ni’n gorfod oedi’
Dywedodd Gwyn Jones, prif weithredwr y datblygwr tai, nad oedd hawl gan neb i orfodi gweithwyr o’r tir, gan mai nhw sy’n berchen ag o.
Maen nhw eisoes wedi cael gwared â gwrychoedd sydd ar y safle.
“Dydyn nhw’n methu â [gwthio ein gweithwyr o’r safle],” meddai.
“Fe wnaethon ni gael gwared â’r gwrychoedd ar ôl ymgynghori â’r cyngor.
“Rydyn ni eisoes wedi dechrau proses o apelio’r penderfyniad. Byddwn ni’n apelio’r penderfyniad, a chodi tâl ar y cyngor am y costau o wneud hynny achos mae’r oedi hyn yn ddiangen.
“Mae gennyn ni lawer o bobol leol oedd yn barod i brynu ar y safle, ac mae’n siomedig ein bod ni’n gorfod oedi.
“Roedd 20% o’r safle yn dai fforddiadwy, felly byddai 20 o’r tai yn mynd i ddwylo Cyngor Sir Ddinbych fel tai fforddiadwy i bobol ddigartref. Ond maen nhw wedi gohirio hynny nawr.
“Dw i ddim yn gwybod o le ddaeth penderfyniad y pwyllgor.
“Bydd hyn yn cael ei apelio, ac fe fydd yn costio’n ddrud i’r cyngor.”
‘Ni biau’r cae’
Eglurodd Gwyn Jones fod ei gwmni wedi prynu’r tir cyn i benderfyniad y pwyllgor cynllunio gael ei wneud.
“Roedd y safle’n eiddo i’r cyngor ac roedden nhw wedi’i ddyrannu ar gyfer datblygiad tai ers 10 mlynedd,” meddai.
“Roedd ugain y cant o’r tai yn mynd i bobol leol.
“Yn Sir Ddinbych, mae gennych chi bobol yn byw mewn fflatiau un ystafell a llety dros dro. Roedden ni’n mynd i ddarparu 20 o dai fforddiadwy i bobol leol yn Ninbych, ac maen nhw wedi gwrthod y penderfyniad ar ôl gwerthu’r tir i ni.
“Ni biau’r cae, ac mae Cyngor Sir Ddinbych wedi cael y siec amdano. Daeth hynny drwy dendr cystadleuol.
“Cafodd y cyfan ei roi i ni yn ffurfiol a’i werthu i ni oherwydd ei fod wedi’i ddyrannu [ar gyfer tai], ac mae’r swyddogion cynllunio wedi argymell ei gymeradwyo.
“Does gan y swyddogion priffyrdd ddim gwrthwynebiad o gwbl.
“Does dim byd o’i le arno.”
Ymateb y Cyngor
Fe ofynwyd i Gyngor Sir Ddinbych am eglurhad pam fod y tir wedi ei werthu fis cyn bod penderfyniad i fod i gael ei wneud gan y pwyllgor cynllunio.
“Cafodd y tir ei hysbysebu ar werth yn dilyn penderfyniad y cabinet ar 20 Hydref 2020,” meddai llefarydd ar ran y cyngor:
“Cafodd y gwerthiant ei gwblhau ar 9 Chwefror 2022.
“Doedd y cynnig a gafodd ei dderbyn ddim yn amodol ar y datblygwr yn cael caniatâd cynllunio yn gyntaf.”