Cyngor Sir Ceredigion yw’r awdurdod lleol diweddaraf i ystyried rhoi gwyliau i’w staff ar Ddydd Gŵyl Dewi y flwyddyn nesaf.
Mae Cyngor Gwynedd eisoes wedi cyhoeddi bod eu gweithlu’n cael diwrnod o wyliau heddiw (Mawrth 1), ac roedd trefniant tebyg yn arfer bod yn weithredol i staff Cyngor Ynys Môn.
Fe wnaeth cynghorwyr yng Ngwynedd hefyd anfon llythyr at Lywodraeth y Deyrnas Unedig yn galw arnyn nhw i ddynodi Gŵyl y Banc swyddogol ar ddiwrnod nawddsant Cymru, ond cafodd hynny ei wfftio.
Er i arweinwyr Cyngor Sir Ceredigion wrthod galwadau gan undeb llafur UNSAIN i roi gwyliau i’w staff heddiw, byddan nhw’n ystyried y posibilrwydd o wyliau ar Fawrth 1, 2023 yn lle.
‘Bywyd gwaith wedi newid cymaint’
Mae’r Cynghorydd Ellen ap Gwynn, sy’n camu i lawr o’i rôl fel arweinydd yr awdurdod lleol ym mis Mai, yn dweud bod y Grŵp Plaid Cymru ar y Cyngor yn awyddus i roi cynnig ymlaen yn dilyn yr Etholiadau Lleol eleni.
Er na fydd y gwyliau yn weithredol eleni, mae hi’n annog trigolion y sir i “wneud y pethau bychain” ar drothwy’r ŵyl eleni.
Mae Denise Owen, rheolwr addysg gymunedol Cyngor Sir Ceredigion, wedi cyfeirio at y ffaith fod trafodaethau ar y gweill.
“Mae bywyd gwaith wedi newid cymaint dros y ddwy flynedd ddiwethaf ac felly hefyd y pwysau a’r cyfrifoldebau sydd ynghlwm wrth ein holl swyddi,” meddai.
“Byddai’n arwydd hyfryd iawn o werthfawrogiad gan y cyngor pe baem yn gallu dathlu Dydd Gŵyl Dewi gartref gyda’n teuluoedd.”
‘Ffordd wych i ddiolch’
Roedd undeb UNSAIN yn croesawu’r ffaith bod y newid yn cael ei ystyried.
“Rydym yn croesawu ymrwymiad y cyngor i ystyried Dydd Gŵyl Dewi fel gŵyl gyhoeddus i’w staff y flwyddyn nesaf,” meddai Simon Dunn, trefnydd rhanbarthol yr undeb yng Ngheredigion.
“Fel mae awdurdodau fel Gwynedd wedi dangos, gall hyn fod yn ffordd wych i ddiolch i’r gweithlu sydd wedi rhoi ac yn parhau i roi cymaint i’r cymunedau y maent yn eu gwasanaethu.”
Mae Cyngor Sir Castell-nedd Port Talbot hefyd wedi ystyried dilyn ôl traed cynghorau Gwynedd a Môn, ac fe fyddan nhw’n llunio adroddiad yn edrych ar y potensial o gael gwyliau ar Fawrth 1 y flwyddyn nesaf.
Maes o law, fe fydd Cyngor Gwynedd yn asesu llwyddiant y trefniant eleni, ac yn ystyried cyflwyno’r gwyliau’n flynyddol.