Mae cynghorydd yng Ngwynedd yn pryderu y bydd lleihau nifer y cynghorwyr sir ym Mangor o ddeg i saith yn golygu bod trigolion y ddinas yn cael cam.

Rhai misoedd yn ôl, fe wnaeth y Comisiwn Ffiniau gyhoeddi newidiadau i wardiau cynghorau sir ledled Cymru, ac fe fydd rhai cynghorau yn gweld cynnydd yn eu haelodau a rhai yn gweld gostyngiad.

Un o’r awdurdodau sy’n gweld gostyngiad yw Cyngor Gwynedd, gyda nifer y cynghorwyr yn gostwng o 75 i 69.

Bangor fydd yn gweld y newid mwyaf sylweddol, gyda nifer y cynghorwyr yno yn gostwng o 10 i 7.

Mae tri chynghorydd yn cael eu colli bron yn uniongyrchol oherwydd bod tair ward, sydd â phedwar aelod, yn cyfuno i greu un ward gyda dau aelod – Canol Bangor.

‘Tangynrychiolaeth’

Y Cynghorydd Mair Rowlands

Bydd Menai, ward y Cynghorydd Mair Rowlands, yn un o’r rhai fydd yn diflannu o dan y drefn newydd.

“Mae Bangor yn benodol wedi cael ei heffeithio dipyn gan y newid yn y ffiniau,” meddai wrth golwg360.

“Yn amlwg, beth dydyn nhw ddim wedi rhoi ystyriaeth iddo yw nifer y boblogaeth. Yr unig beth maen nhw wedi ei ystyried ydi’r nifer o bobol sydd wedi cofrestru.

“Yn y ward [Canol Bangor], mae yna boblogaeth uchel o fyfyrwyr, lle does yna ddim cymaint ohonyn nhw yn pleidleisio.

“Dw i’n meddwl bydd hynny’n arwain at dangynrychiolaeth, a’i fod o’n mynd i fod yn lot o waith i ddau gynghorydd i gyfro ardal mor eang.”

‘Newidiadau yn rhy radical’

Bydd ward newydd o’r enw Dwyrain Bangor hefyd yn cael ei chreu allan o wardiau Hirael, Marchog a rhan o ward Deiniol.

“Dydyn nhw ddim wedi gwrando ar yr adborth o’r ymgynghoriad,” meddai’r Cynghorydd Mair Rowlands.

“Roedd Cyngor Gwynedd a Chyngor y Ddinas wedi ymateb yn dweud bod y newidiadau yn rhy radical.

“Nid dim ond Canol Bangor sy’n cael ei effeithio, ond mae ardaloedd Maesgeirchen a Hirael, a hanner y stryd fawr hefyd yn uno i greu un ward fawr.

“Yn y fan honno eto, maen nhw wedi ystyried y nifer o bobol sydd wedi cofrestru [i bleidleisio]. Mewn ardal ddifreintiedig fel Maesgeirchen, dydy’r niferoedd sydd wedi cofrestru ddim yn uchel.

Wardiau newydd Cyngor Gwynedd. Llun o adroddiad y Comisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol.

“Ac os ydych chi’n meddwl am y math o achosion mae cynghorydd yn gorfod delio â nhw mewn ardal fwy difreintiedig, byswn i’n meddwl bod yna lwyth gwaith uchel o ran helpu pobol gyda cheisiadau am dai, tai cymdeithasol, a chefnogi pobol fregus.

“Yn fy ward i, efallai bod y problemau ychydig bach yn wahanol, ond efo gymaint o bobol yn byw yn y rhan yma o’r ddinas yn ystod tymor y brifysgol, mae yna lot o faterion a phroblemau sydd angen eu datrys.”

Rhannu’r baich?

Bydd y ddwy ward newydd sbon, Canol Bangor a Dwyrain Bangor, yn ethol dau aelod yr un i fod ar Gyngor Gwynedd ym mis Mai.

Dywedodd y Cynghorydd Mair Rowlands bod manteision yn hynny weithiau, ond nid ar yr achlysur hwn.

“Dw i wedi bod yn aelod mewn ward-dau-aelod,” meddai.

“Yn rhywle fel Ynys Môn, maen nhw wedi dod â wardiau dau neu dri aelod i mewn.

“Mae yna fanteision yn hynny, gan eich bod chi’n gallu cydweithio, rhannu’r baich gwaith, ac arbenigo ar feysydd gwahanol.

“Yn amlwg, mae hynny’n gweithio’n haws pan mae yna gynghorwyr o’r un blaid yn wleidyddol!

“Ond mae’r newid maen nhw wedi ei gymeradwyo ym Mangor yn ormod dw i’n meddwl.”

Roedd hi hefyd yn teimlo y gallai’r newidiadau fod yn “rhwystr” i bobol ifanc a phobol o gefndiroedd gwahanol rhag sefyll, gan y byddai’r rheiny sy’n gweithio’n llawn amser yn gweld y llwyth gwaith yn “ormodol.”

‘Ddim yn cynrychioli’r gwir ddarlun’

Ar y cyfan, dydy llawer o gynghorwyr Gwynedd ddim yn hapus bod y newidiadau wedi cael eu gorchymyn gan y Comisiwn Ffiniau, yn ôl Mair Rowlands.

“Maen nhw wedi ychwanegu ward yn Nyffryn Ogwen er enghraifft, ac efallai bod hynny yn gwneud synnwyr ar lefel leol,” meddai.

“Mae’n bosib bod rhai pethau’n gwneud mwy o synnwyr nag eraill, ond mae’n rhaid ystyried pa mor fawr ydy Gwynedd yn hyn i gyd.

“Dw i ddim yn meddwl bod y Comisiwn Ffiniau wedi rhoi ystyriaeth i hynny yn rhai o’r penderfyniadau maen nhw wedi eu gwneud.

“Maen nhw wedi bod yn llusgo’u traed efo hyn ers oesoedd, ac maen nhw rŵan yn cyhoeddi hyn yn agos iawn at etholiad.

“Dydy o ddim yn rhoi lot o gyfle i bobol baratoi a gwneud penderfyniadau ynglŷn ag a ydyn nhw’n mynd i sefyll.

“Mae’r ffordd maen nhw wedi edrych ar y peth yn seiliedig ar niferoedd sydd wedi cofrestru, a dydy hynny ddim yn cynrychioli’r gwir ddarlun ar lawr gwlad, o ran yr achosion mae cynghorwyr yn gorfod delio â nhw a niferoedd y boblogaeth.”

Gostwng nifer y cynghorwyr ar Gyngor Gwynedd o 75 i 69

Gareth Williams, Gohebydd Democratiaeth Leol

Dim ond 27 ward fydd ddim yn cael eu heffeithio o gwbl gan y newidiadau