Mae ymgeisydd yn yr etholiadau lleol eleni yn dweud mai amser yw’r ffactor mwyaf sy’n atal menywod rhag sefyll i fod ar gynghorau sir.

Ar drothwy’r etholiadau ym mis Mai, mae nifer o gynghorau wedi ceisio hybu merched a phobol eraill sy’n cael eu tangynrychioli i roi eu henwau ymlaen fel ymgeiswyr.

Yn y cyfamser, mae cynghorau lleol yn datblygu eu cynlluniau gweithredu eu hunain, er mwyn dangos eu hymrwymiad i gynrychioli eu cymunedau’n well.

Ar hyn o bryd, dim ond tua 28% o gynghorwyr Cymru sy’n fenywod, a dim ond chwech o’r 22 awdurdod lleol sy’n cael eu harwain gan fenywod.

‘Dim pwynt eistedd yn ôl a chwyno’

Un sy’n sefyll etholiad am y tro cyntaf eleni yw Elin Mabbutt o Aberystwyth, ac mae hi wedi ei chyffroi gan y syniad o gynrychioli ei chymuned leol yn ward y Faenor.

“Byddai hi’n fraint arbennig,” meddai wrth golwg360.

“Dw i’n byw ar y ffin yn fan hyn rhwng Llanbadarn a’r Faenor, felly dw i’n lwcus i allu chwarae rhan yn y ddwy gymuned ar hyn o bryd.

“Mae’n hyfryd bod yn rhan o’r cymunedau hynny, ond byddai hi’n fraint ofnadwy cael eu cynrychioli nhw ar y cyngor.

“Mae gen i barch mawr i’r cynghorydd sydd yma ar hyn o bryd. Dw i o’r farn bod dim pwynt eistedd yn ôl a chwyno am rywbeth os nad wyt ti’n fodlon helpu i wneud rhywbeth am y peth.

“Dw i’n credu bod lot gen i gynnig i’r gymuned, a dw i’n gobeithio bydden i’n gallu eu cynrychioli nhw gorau â fedrwn i.”

“Brwdfrydig” am y gymuned

Fe dyfodd Elin Mabbutt i fyny mewn “cymuned glos iawn” yn ardal Llanwrtyd ym Mhowys, cyn symud i Gaerdydd a Llundain yn ddiweddarach yn ei bywyd.

Bellach, mae hi wedi ymgartrefu yn ardal Aberystwyth gyda’i gŵr a’i phlant, ac mae hi’n dweud ei bod hi’n “hyfryd gallu chwarae rhan yn y gymuned” yn y fan hynny.

“Dw i wastad wedi bod yn frwdfrydig am fod yn rhan o gymuned,” meddai.

“Pan fues i’n byw yng Nghaerdydd a Llundain, oeddwn i’n gweld eisiau bod yn rhan o gymuned glos ac adnabod pobol.”

Mae Elin hefyd wedi bod yn rhan o ymgyrch gymunedol hirwyntog i arbed darn o dir ym mhentref Waunfawr ger Aberystwyth rhag cael ei ddefnyddio ar gyfer datblygiad tai.

Bwriad y pentrefwyr yw ceisio rhoi statws ’maes pentref’ (village green) i gae Erw Goch, sy’n cael ei ddefnyddio’n helaeth ar gyfer gweithgareddau hamdden, ac mae cais wedi ei roi ers tro i Gyngor Ceredigion i sicrhau ei ddyfodol.

Fisoedd yn ddiweddarach, mae’r ymgyrchwyr yn parhau i wrthdaro â’r datblygwyr tai er mwyn arbed y tir.

Ychwanega ei bod hi’n “bryderus” mai’r cyngor sy’n cael gwneud y penderfyniad ar y tir, gan mai nhw sydd hefyd yn eiddo arno, a’n cael y buddion ariannol o werthu’r cae.

‘Rhwystr yn enwedig i famau’

Wrth ystyried yr heriau sy’n wynebu menywod wrth fod yn gynghorwyr, dywed Elin Mabbutt mai diffyg amser oedd un o’r prif ffactorau dros y diffyg hynny, yn enwedig i famau.

“Yn siarad fel merch, gwraig a mam fy hunan, dw i’n teimlo nad oedd yr amser gen i i ymgeisio, rhedeg etholiad, a chael fy ethol tra bod fy mhlant i’n ifanc,” meddai.

“Y rheswm pam bod llai o fenywod yn eu 30au neu 40au yn eistedd yw bod dim o’r amser na’r capasiti ganddyn nhw i wneud hynny. Dw i ddim yn credu bod e’n conscious bias o gwbl, ond mae’n rhaid bod yn bragmatig.

“Mae e’n rhwystr yn enwedig i famau, ac os oes swydd gyda chi eisoes, mae e’n gwneud gwahaniaeth.

“Er bod cynghorwyr sir yn derbyn tâl, ac mae hi’n hawdd meddwl y gallwn ni ddefnyddio’r tâl hynny i garco’r plant, mewn realiti, dydy hynny ddim wir yn gweithio.

“Dim ond nawr dw i’n teimlo y galla i roi’r amser i eistedd etholiad ac ymgyrchu, ac wedyn petawn i’n cael fy ethol, byddai amser gen i nawr i’w roi i’r etholaeth.”

‘Mae’n anodd gweld ateb’

Dydy hi ddim yn siŵr sut mae datrys y broblem, ond mae hi’n hyderus bod cynnal cyfarfodydd ar-lein yn fwy cyfleus i fenywod sydd â chyfrifoldebau eraill.

“Mae’r ffaith bod y rhan fwyaf o gyfarfodydd y cyngor sir bellach ar-lein, dw i’n credu bod hynny’n mynd i wneud gwahaniaeth os bydd e’n parhau felly,” meddai.

“Byddai hynny wrth gwrs yn arbed amser teithio i lot o bobol. Ond oni bai am hynny, mae’n anodd gweld ateb i hyn.

“Y peth yw, mae eisiau pobol yr oedrannau hyn arnon ni i gynrychioli’r demograffig sydd yn yr etholaeth fwy.

“Mae eisiau lleisiau ifanc, wynebau newydd, a phobol sy’n adlewyrchu’r rheiny sy’n byw yn y gymuned a’n gwybod beth maen nhw’n mynd trwyddo.

“Beth yw’r ateb – dw i wir ddim yn gwybod – ond byddai’n neis os allwn ni gael mwy o fenywod yn eistedd ar y cyngor sir yn sicr.”