Ar ôl aros hir ac eiddgar, mae ffordd osgoi Bontnewydd a Chaernarfon wedi agor i’r cyhoedd – ac wedi cau eto yn dilyn gwrthdrawiad.

Gyda’r adeiladu’n dechrau yn gynnar yn 2019, mae’n debyg bod y prosiect gwerth £139m+ wedi dod i ben yn gynt na’r disgwyl, er gwaethaf rhwystrau’r pandemig.

Bydd rhan gyntaf o’r ffordd 9.8 cilomedr o hyd yn tarddu o gylchfan yr A499/A487 ger Llanwnda a’n dod i ben ar gylchfan ger gwesty’r Meifod yn Y Bontnewydd.

Yna, bydd yr ail ran yn mynd o’r gylchfan honno’r holl ffordd heibio tref Caernarfon i gylchfan Plas Menai ger Y Felinheli.

Roedd disgwyl i’r ffordd agor yn gynnar dddydd Gwener (18 Chwefror), ond roedd rhaid gohirio hynny oherwydd effeithiau Storm Eunice ar yr ardal.

Er bod y gwaith fwy neu lai wedi dod i ben yn hwyr y llynedd, gyda thaith gerdded yn cael ei threfnu i nodi hynny, bydd ceir yn gallu mwynhau’r ffordd osgoi newydd am y tro cyntaf.

‘Ffafriol ofnadwy’

Dywed y Cynghorydd Peter Garlick, sy’n cynrychioli cymuned Y Bontnewydd ar Gyngor Gwynedd, fod y gwaith yn rhoi diwedd ar bron i 15 mlynedd o ymgynghori, cynllunio ac adeiladu.

“Bydd hyn yn andros o fudd i ni,” meddai wrth golwg360.

“Yn enwedig dros yr haf diwethaf, mae’r tagfeydd traffig wedi bod yn andros o hir ac wedi achosi problemau mawr.

“Byddwn ni’n falch o gael ein pentref ni yn rhydd o’r holl drafnidiaeth drwm a thagfeydd traffig sydd wedi bod yn digwydd dros y blynyddoedd.

“Mae hyn yn ffafriol ofnadwy i bentref Bontnewydd a phentrefi cyfagos yn bendant, ac rydyn ni’n croesawu agoriad y ffordd osgoi.”

Siân Gwenllian AoS (chwith) a Hywel Williams AS (dde)

‘Gwella ansawdd bywyd’

Mae Siân Gwenllian, Aelod Plaid Cymru o’r Senedd dros Arfon, wedi ategu y bydd y cynllun yn cynnig sawl budd i’r ardal.

“O’r diwedd, mae’r ffordd newydd yn agor gan wneud siwrneiau yn yr ardal yn fwy dymunol a gwella ansawdd bywyd pobol Bontnewydd a Chaernarfon, sydd wedi ymgyrchu’n galed i wireddu’r prosiect hwn,” meddai.

“Bydd yr aer yn lanach, bydd llai o lygredd, bydd y strydoedd yn dawelach a buan iawn y bydd ciwiau traffig hir yr haf yn hen hanes. Bydd ffyrdd hefyd yn saffach i gerddwyr a beicwyr.

“Mae’r cynllun wedi wynebu oedi ac fe gefnogodd Hywel Williams AS a minnau drigolion lleol i sicrhau na fyddai’r ffordd ar gefn meddwl y Llywodraeth.

“Fe ymunon ni ag ymgyrchwyr yn y Bontnewydd a chodais y mater ar lawr y Senedd droeon er mwyn sicrhau cynnydd.

“Galwais hefyd ar weithwyr lleol, prentisiaid a busnesau lleol i fod yn rhan o’r cynllun ac rwy’n falch bod y prosiect wedi gallu darparu gwaith i lawer o bobol leol a bod y gwaith wedi gallu parhau i ddarparu cyflogaeth er gwaethaf sefyllfa gyda Covid.

“Rwy’n diolch i bawb sydd wedi gweithio i gyrraedd y pwynt hwn.”

Gwrthdrawiad

Ond ar y diwrnod cyntaf y gall traffig deithio ar hyd y ffordd newydd, roedd yna wrthdrawiad.

Fe ddigwyddodd toc ar ôl canol dydd.

Bu’n rhaid i gerbydau deithio ar hyd yr hen ffordd, yr A487.