Mae’r actor Emyr Gibson, oedd yn adnabyddus am ei ran yn Rownd a Rownd, wedi dechrau rôl newydd yn gweithio mewn cartref gofal yng Nghaernarfon.

Gan weithio o fewn tîm therapïau cefnogi yng nghartref Bryn Seiont Newydd, mae Emyr Gibson wedi syfrdanu at y ffordd mae ei sgiliau actio a’i ddawn gerddorol yn cyd-fynd â’r gwaith.

Mae’r actor a’r cantor yn gweithio dridiau’r wythnos yn y cartref fel actor preswyl, ac yn ôl rheolwr y cartref dementia mae’r celfyddydau a diwylliant yn “rhan annatod” o’u gwaith i gyfoethogi bywydau’r preswylwyr a’r staff.

Wrth ei waith, mae Emyr Gibson yn cydweithio â Nia Davies Williams, cerddor preswyl y cartref, a staff cyfoethogi eraill er mwyn darparu rhaglen therapiwtig o weithgareddau celf, crefft a cherddoriaeth i breswylwyr sy’n byw â dementia.

Effaith y pandemig

Daeth Emyr Gibson i enwogrwydd yn chwarae rhan Meical ar Rownd a Rownd am ddeunaw mlynedd.

Mae’n denor hefyd, ac wedi perfformio ar hyd a lled Cymru gyda’r grŵp Trio Cymru.

Mentrodd i’r sector gofal cymdeithasol yn rhannol o ganlyniad i effaith y pandemig ar fyd y celfyddydau a’r diffyg perfformiadau byw dros y ddwy flynedd ddiwethaf.

“Pe bai unrhyw un wedi dweud wrthyf ychydig o flynyddoedd yn ôl y byddwn yn gweithio mewn lleoliad gofal dementia, fyddwn i ddim wedi eu credu,” meddai Emyr Gibson.

“Ond os ydi’r pandemig wedi dysgu unrhyw beth i mi yna byw yn y foment yw hynny, byddwch yn barod i wneud newidiadau ac agor eich meddwl i addasu ein ffordd o fyw i’r hyn sy’n digwydd o’n cwmpas.”

“Roeddwn i’n edrych ar fentrau newydd posibl a heriau gyrfa yn ystod cyfnod tawel cyfyngiadau’r pandemig pan ddes i ar draws hysbyseb am swydd fel ymarferwr gofal gyda Bryn Seiont Newydd.

“Mi wnes i gais ond rwy’n cyfaddef i mi gael ychydig o draed oer pan gysylltwyd â mi ynghylch y swydd.

“Bellach rydw i yma yn gweithio gyda thîm gwych, a gallaf weld nad oedd yn naid fawr wedi’r cyfan.

“Mae fy actio a’m cerddoriaeth yn asio’n dda efo amcanion y rhaglen gweithgareddau cyfoethogi ac rydw i wir yn mwynhau dysgu sgiliau newydd mewn amgylchedd gwahanol i’r un rydw i wedi arfer ag o, gan weithio’n agos efo’r preswylwyr.”

‘Wynebau’n goleuo’

Wrth i Emyr Gibson ganu i breswylwyr, mae’n gweld sut mae wynebau rhai yn goleuo ac atgofion yn dod yn fyw iddyn nhw.

“Pan gafodd cymaint o berfformiadau eu canslo yn ystod y cyfnodau clo amrywiol, lleihawyd y cyfleoedd i ni ganu’n gyhoeddus yn sylweddol. Mi wnaethon ni golli ein cynulleidfaoedd a gyda hynny’r cyfle i ganu’n broffesiynol,” meddai.

“Felly mae dod yma a chanu i’r preswylwyr wedi bod yn fendith. Mae wedi fy helpu i ddarganfod fy llais eto.

“Gallaf weld gyda rhai pobol sut mae eu hwynebau’n goleuo ac atgofion gwerthfawr yn dod yn fyw yn sydyn.

“Mae fel math o fyfyrdod, maen nhw’n byw yn y foment.

“Os gallaf helpu i hynny ddigwydd hyd yn oed am gyfnod byr, mae’n rhoi boddhad mawr i mi weld hynny a gallu dod â phleser i’w diwrnod. I mi mae wedi bod yn bleser bod yn rhan o allu creu’r math newydd hwn o brofiad cerddorol.”

‘Cyfoethogi bywydau’

Dywed Sandra Evans, rheolwr Bryn Seiont Newydd, fod Emyr Gibson wedi bod yn ychwanegiad “rhagorol” i’r tîm.

“Mae’r celfyddydau a diwylliant bob amser wedi bod yn rhan annatod o bopeth a wnawn i gyfoethogi bywydau ein preswylwyr a’n staff fel ei gilydd,” meddai.

“Mae Emyr wedi cryfhau ein tîm cyfoethogi sydd eisoes yn wych.

“Mae ganddo lais tenor hyfryd o safon arbennig. Rydym wrth ein bodd ei fod wedi cytuno i gymryd rhan mor bwysig gyda ni.”