Am y tro cyntaf ers tair blynedd, bydd Gŵyl Delynau Cymru yn dychwelyd i’w gwedd arferol ym mis Ebrill.
Roedd y digwyddiad yn 2020 wedi ei ganslo yn sgil y pandemig, tra bod yr ŵyl yn 2021 wedi ei chynnal yn rhithwir.
Ar Ebrill 12 a 13, bydd modd i gynulleidfa fyw gael eu swyno gan berfformiadau byw yn y Galeri yng Nghaernarfon unwaith eto, gyda rhai o delynorion gorau’r byd yn cymryd rhan.
Yn ogystal â’r cyngherddau, bydd dosbarthiadau a gweithdai yn cael eu cynnig i delynorion o bob oed, sy’n cael eu harwain gan rai o’r telynorion proffesiynol sy’n perfformio.
‘Edrych ymlaen yn fawr’
Elinor Bennett, y delynores fyd-enwog, yw cyfarwyddwr artistig yr ŵyl eleni.
“Rwy’n edrych ymlaen yn fawr at groesawu telynorion o bob rhan o Gymru a thu hwnt i’r ŵyl,” meddai.
“Rwy’n gyffrous hefyd i weithio gyda’n ffrindiau o adran delyn y TU Dublin Conservatoire i ddathlu a chryfhau’r cysylltiad Celtaidd sydd wedi bodoli rhwng Cymru ac Iwerddon.
“Cynhelir cystadleuaeth Gwobr Nansi Richards ar gyfer telynorion ifanc o Gymru. Yn olaf, ond yn sicr nid lleiaf, bydd athrawon brwdfrydig a blaengar yn helpu darpar delynorion gyda’u hastudiaethau.”
‘Y delyn yn enwog am ei phwerau iachusol’
Wrth ystyried bod y pandemig wedi torri ar draws hwyl yr ŵyl ddwywaith, mae Elinor Bennett yn credu y bydd hi’n llesol i bawb gael cwrdd eto.
“Mae’r delyn yn enwog am ei phwerau iachusol a bydd Gŵyl Delynau Cymru yn rhoi cyfle gwych i delynorion profiadol a dechreuwyr i ddod at ei gilydd unwaith eto,” meddai.
“Rwy’n edrych ymlaen yn fawr at gael fy ysbrydoli gan delynorion eraill, iau a hŷn, i greu cerddoriaeth a fydd yn codi ein calonnau a’n hysbryd, ar ôl pryderon Covid.
“Gadewch i ni edrych ymlaen gyda’n gilydd i ddyfodol gwell gyda chalonnau positif, trwy hyrwyddo’r delyn mewn gŵyl a ohiriwyd yn 2020 oherwydd y pandemig.”
Cyngerdd yr Ŵyl
Un o uchafbwyntiau’r amserlen eleni yw Cyngerdd yr Ŵyl, sy’n cael ei gynnal ar y nos Fercher.
Yn perfformio yn y cyngerdd hwnnw fydd Gwenllian Llŷr o Abertawe, a bydd hi’n chwarae darn gan Mared Emlyn, a gafodd ei gyfansoddi yn wreiddiol ar gyfer yr ŵyl yn 2020.
Ond wedi dwy flynedd dan glo, bydd modd i’r cyfansoddiad weld golau dydd ym mis Ebrill, a hynny “yn union fel y dylai fod”, yn ôl Elinor Bennett.
Yn ogystal, bydd y telynor jazz Benjamin Creighton-Griffiths a’i fand Transatlantic Hot Club yn chwarae yn y cyngerdd.
Bydd Gwenllian Llŷr a Benjamin Creighton-Griffiths hefyd yn cynnal gweithdai arbenigol yn ymwneud â chyfansoddi a cherddoriaeth jazz yn ystod y dydd.
Gallwch ddarganfod mwy am amserlen yr ŵyl ar y wefan.