Mae apêl i godi arian ar gyfer ail-godi cerflun yng Ngheredigion ar fin cyrraedd ei therfyn, gyda £700 eto angen ei godi.

Ers sawl mis bellach, mae’r gymuned yn Ystrad Fflur wedi bod yn codi arian er mwyn ail-adeiladu cerflun ‘Y Pererin’ ar fryn cyfagos, ac mae angen cyrraedd y targed o £7,500 erbyn dydd Iau nesaf, 3 Chwefror.

Cafodd cerflun ei godi yn wreiddiol yn 2012 fel rhan o arddangosfa Sculpture Cymru, lle cafodd sawl darn eu cynhyrchu i adlewyrchu hanes a thirwedd yr ardal ym mynyddoedd Cambria.

Fe wnaeth llawer o’r darnau o’r digwyddiad hwnnw ddadfeilio, ond llwyddodd ‘Y Pererin,’ darn gan yr artist Glenn Morris, i aros ar ei draed am sbel.

Fe sefydlodd ei hun yn rhan boblogaidd ac eiconig o’r olygfa ar fryn Penlan, nes 2019, pan gafodd y cerflun ei chwythu drosodd gan wyntoedd cryfion a gadael gwagle ar ei ôl ar y bryn.

Yn ddiweddar, fe wnaeth Cyngor Ceredigion gymeradwyo cais cynllunio gan Grŵp Cyswllt Cymunedol Ystrad Fflur i greu a chodi cerflun newydd.

Y bwriad yw comisiynu Glenn Morris i ail-greu strwythur tebyg i’r un gwreiddiol, ond sy’n fwy cadarn ac yn gallu gwrthsefyll gwyntoedd cryfion.

Un hwb olaf

Mae’r ymgyrch bellach wedi llwyddo i godi oddeutu £6,800 ers lansio’r apêl ar 25 Hydref, ac mae angen £700 arnyn nhw yn yr wythnos olaf.

Daw hyn ar ôl i Gronfa Henebion y Byd ymrwymo i dalu hanner y gost am y cerflun –tua £15,000 i gyd – pe baen nhw’n cyrraedd y targed erbyn y dyddiad clo.

“Roedden nhw wedi eu denu gan y syniad o greu cerflun newydd ar y bryn,” meddai Carys Aldous-Hughes o Ymddiriedolaeth Ystrad Fflur pan lansiwyd yr ymgyrch godi arian.

Bydd digwyddiad codi arian ychwanegol hefyd yn cael ei chynnal ar 18 Chwefror, gyda thaith gerdded neu ‘bererindod’ o gwmpas ardal Ystrad Fflur.

Apêl i godi arian ar gyfer cerflun ger Ystrad Fflur

Fe gwympodd cerflun gwreiddiol ‘Y Pererin’ yn 2019, ac mae ymgais i greu un tebyg sy’n gwrthsefyll gwyntoedd cryfion