Mae cymuned Ystrad Fflur yn codi arian er mwyn ailgodi cerflun adnabyddus ar fryn cyfagos.
Cafodd y cerflun gwreiddiol, ‘Y Pererin’, ei godi yn 2012 fel rhan o arddangosfa Sculpture Cymru, lle cafodd sawl darn eu cynhyrchu i adlewyrchu hanes a thirwedd yr ardal ym mynyddoedd Cambria.
Fe wnaeth llawer o’r darnau o’r digwyddiad hwnnw ddadfeilio, ond llwyddodd ‘Y Pererin’ i aros ar ei draed am sbel, gan sefydlu ei hun yn rhan boblogaidd ac eiconig o’r olygfa am fryn Penlan.
Ond yn 2019, fe gwympodd y cerflun gan adael gwagle ar ei ôl.
Yn ddiweddar, fe wnaeth Grŵp Cyswllt Cymunedol Ystrad Fflur gais cynllunio i Gyngor Ceredigion, fel eu bod nhw’n gallu creu a chodi cerflun newydd.
Maen nhw’n bwriadu gofyn i artist y cerflun gwreiddiol, Glenn Morris, i ail-greu strwythur tebyg i’r un gwreiddiol, ond sy’n fwy cadarn ac yn gallu gwrthsefyll gwyntoedd cryfion.
Mae’r ymgyrch bellach wedi cael caniatâd i ailgodi cerflun, ac wedi llwyddo i godi dros £1,000 ers lansio apêl am arian ddydd Llun (Hydref 25).
Apêl
Mae Carys Aldous-Hughes o Ymddiriedolaeth Ystrad Fflur yn un sydd yn rhan o’r ymgais i ailgodi’r cerflun.
“Rydyn ni wedi bod yn trio ers tipyn i godi cerflun ‘Y Pererin’ newydd ar y bryn,” meddai wrth golwg360.
“Fe ddechreuon ni’r apêl ar-lein dri diwrnod yn ôl, ac mae wedi mynd yn dda hyd yn hyn, gydag ychydig dros £1,300 yn cael ei godi.
“Fe wnaeth ymddiriedolwyr o’r World Monument Fund ymweld â’r safle fis diwethaf, ac roedden nhw wedi eu denu gan y syniad o greu cerflun newydd ar y bryn, felly maen nhw wedi cytuno i dalu hanner arall y gost os wnawn ni gyrraedd hanner ffordd ein hunain.”
Mae angen i Grŵp Cyswllt Cymunedol Ystrad Fflur godi £7,500 er mwyn gwireddu’r freuddwyd o godi’r cerflun eto.
Mae modd cyfrannu at yr apêl ar eu tudalen LocalGiving ar-lein.