Bydd rhai o atyniadau mwyaf cyfarwydd tref Aberystwyth yn cael eu goleuo’n goch, gwyn a gwyrdd i nodi achlysur canmlwyddiant yr Urdd.
Dros y can mlynedd ddiwethaf, mae Urdd Gobaith Cymru wedi darparu cyfleoedd i fwy na phedair miliwn o blant a phobol ifanc yng Nghymru, ac wedi datblygu’n un o fudiadau ieuenctid cenedlaethol mwyaf Ewrop.
Mae Ceredigion wedi mwynhau perthynas gref â’r mudiad dros y blynyddoedd, gyda Gwersyll yr Urdd, y cyntaf ohonyn nhw, yn cael ei agor yn Llangrannog yn 1932.
Yn ddiweddarach heddiw, bydd wynebau Canolfan Alun R. Edwards (Llyfrgell Gyhoeddus Aberystwyth), Canolfan Rheidol (Pencadlys Cyngor Sir Ceredigion), a’r Bandstand yn Aberystwyth yn cael eu goleuo yn lliwiau’r Urdd.
‘Can mlynedd o wasanaeth arbennig’
Ar ddiwrnod y canmlwyddiant, mae’r Cynghorydd Ellen ap Gwynn, arweinydd Cyngor Sir Ceredigion, wedi llongyfarch y mudiad ar gyrraedd y garreg filltir arbennig.
“Mae hi’n ddiwrnod mawr i’r Urdd heddiw wrth i’r mudiad ddechrau ar flwyddyn o ddathliadau pen-blwydd yn 100 oed,” meddai.
“Hoffem longyfarch y mudiad ar gan mlynedd o wasanaeth arbennig i’r Gymraeg, ac i ieuenctid yng Nghymru.
“Mae cymaint o bobol wedi elwa o fod yn aelodau o’r Urdd, mae’n fodd i gyfarfod â phobol newydd, annog hyder wrth gystadlu, cael hamddena mewn gwersylloedd ar draws Cymru, yn ogystal â nifer o gyfraniadau amhrisiadwy eraill.
“Diolch yn fawr i chi a phen-blwydd hapus.”
Gallwch ddarlen mwy am ganmlwyddiant yr Urdd ar ein hafan.